Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i apelio am dystion i ymosodiad a ddigwyddodd mewn fferyllfa yn sir Gaerfyrddin brynhawn dydd Llun, Rhagfyr 5.

Yn ôl yr heddlu fe ddioddefodd dyn yn fferyllfa Garnant, Cwmaman anafiadau gan ‘arf â llafnau’ tua 12.40yp, ac mae’n parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Cafodd dyn, 68 oed, ei arestio ar y pryd ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.