Gwyndaf Llewellyn Brown (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth yn ymwneud â dyn 43 oed o’r enw Gwyndaf Llewellyn Brown, sydd ar goll.

Does neb wedi’i weld ers 5yp ddydd Gwener, Tachwedd 25, a hynny pan oedd yn gadael ardal Y Tyllgoed mewn tacsi, gan anelu am barc manwerthu Parc Lecwydd.

Mae Heddlu De Cymru yn arbennig o bryderus ynglyn ag  o, ac yn annog unrhyw un sy’n gwybod lle gallai fod, i ffonio’r rhif 101.