A fydd Carwyn Jones yn camu o'r neilltu yn 2019? (Llun: Y Blaid Lafur)
Mae lle i gredu bod Llafur Cymru’n ystyried newid eu rheolau fel bod yr arweinydd yn cael ei ethol gan ddefnyddio’r un drefn â’r Blaid Lafur Brydeinig.

Cafodd Jeremy Corbyn ei ethol gan ddefnyddio’r drefn fod gan bob aelod un bleidlais a bod yr holl bleidleisiau’r un mor werthfawr â’i gilydd.

Ond ar hyn o bryd yng Nghymru, mae’r arweinydd yn cael ei ethol ar ffurf ‘coleg etholiadol’, lle mae pwys gwahanol ar bleidleisiau Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd, undebau llafur ac yna aelodau cyffredin.

Mae gan Lafur Cymru ganiatâd y Blaid Brydeinig i newid y drefn os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Mae lle i gredu erbyn hyn y gallai Carwyn Jones roi’r gorau iddi yn 2019 ac y byddai etholiad i ddewis ei olynydd yn cael ei gynnal gan ddefnyddio’r drefn newydd.

Mae’r mater eisoes wedi hollti barn Aelodau’r Cynulliad, gydag Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe, Mike Hedges o blaid y drefn newydd, ond Aelod Cynulliad Torfaen, Lynn Neagle yn wrthwynebus.

Dywedodd Mike Hedges wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: “Dw i’n llwyr gefnogi un aelod, un bleidlais. Dw i’n credu ei bod yn system decach.

“Mae pleidlais pob aelod yn cyfri yn union yr un ffordd â’i gilydd a dw i’n credu bod hynny’n bwysig iawn i sicrhau bod pob aelod yn teimlo’n werthfawr.”

Ond yn ôl Lynn Neagle: “Mae’r coleg etholiadol yn cynrychioli pob adain yn y blaid ac yn ei hanfod yn sicrhau bod pwy bynnag sy’n arwain Llafur Cymru yn ennill cefnogaeth y grŵp Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol.

“Dw i’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cynnal y cyswllt â chynrychiolwyr yr undebau llafur y mae’r coleg etholiadol yn ei ddarparu.”

Mae disgwyl i ymgynghoriad gael ei gynnal cyn y bydd penderfyniad yn cael ei wneud.