Carwyn Jones a Nicola Sturgeon mewn cyfarfod cynharach i drafod Brexit (Stefan Rousseau/Gwifren PA)
Fe fydd Prif Weinidog Cymru’n pwysleisio ei bod hi’n bwysicach fyth fod gan Gymru ddrws agored i’r farchnad sengl yn Ewrop yn sgil ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Fe fyddai methu â gwneud hynny’n drychinebus i economi Cymru, meddai, cyn cyfarfod o arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru.

Ac mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi neges debyg, gan feirniadu Llywodraeth Prydain hefyd am fethu â rhoi gwybod beth yw eu cynlluniau.

Fe fydd Carwyn Jones yn croesawu arweinwyr cenhedloedd eraill gwledydd Prydain i gyfarfod y Cyngor Prydain-Iwerddon ym Mro Morgannwg, er na fydd Prif Weinidog Prydain yno na’r Ysgrifennydd Brexit chwaith.

Trump – ‘atgyfnerthu pwysigrwydd’ masnachu ag Ewrop

“I siarad yn blaen, byddai sefyllfa ble byddai’r Deyrnas Unedig yn wynebu rhwystrau a thariffau er mwyn masnachu yn Ewrop yn drychinebus i’n heconomi,” meddai Carwyn Jones.

“Etholwyd y Darpar Arlywydd Trump yn sgil ei addewid i wneud America’n fawr unwaith eto. Dyw hi ddim yn gyfrinach mai ei flaenoriaeth fydd cael y cytundeb gorau i America, a dydw i ddim wedi fy argyhoeddi y byddwn yn gweld cytundeb masnach rydd fydd o fudd i neb heblaw’r Unol Daleithiau.

“Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd diogelu ein mynediad at farchnad Ewrop sy’n cynnwys 500 miliwn o bobol.”

“Mae’n bwysicach nag erioed sicrhau ein bod yn meithrin y berthynas gref sy’n bodoli rhwng aelodau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a chydweithio er mwyn adeiladau sylfaen gadarn ar gyfer y ffordd ymlaen.”

Pwy fydd yno

Fe fydd Llywodraeth Prydai yn cael ei chynrychioli gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, James Brokenshire, yr Is-ysgrifennydd dros Brexit, Robin Walker, a’r Is-ysgrifennydd dros Fenywod, Cydraddoldeb a’r Blynyddoedd Cynnar, Caroline Dinenage.

Fe fydd Prif Weinidog Iwerddon, Enda Kenny, yno, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, Prif Weinidog Gogledd Iwerdon, Arlene Foster, a’r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness.

Yn ogystal â Carwyn Jones, bydd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yno i gynrychioli Cymru hefyd.