Llys y Goron Caerdydd
Mae achos dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio pensiynwr ac o geisio llofruddio dynes 21 oed yng Nghwm Ogwr yn cychwyn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Fe fydd Andrew Seal, 49, o Gwm Ogwr, yn sefyll ei brawf yn dilyn marwolaeth Gwilym Jones, 73, mewn fflat yn Oxford Court ym mis Mai eleni.

Cafodd ei arestio ar ôl i’r pensiynwr gael ei ddarganfod wedi’i drywanu, ac ar ôl adroddiadau bod ymgais wedi’i wneud i geisio llofruddio dynes 21 oed am 10:45yh ar 15 Mai.

Mae Andrew Seal eisoes wedi ymddangos o flaen y barnwr Eleri Rees er mwyn cadarnhau ei enw.