Awyren F35 (Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi heddiw fod cydrannau awyrennau rhyfel am gael eu cynnal a’u cadw mewn canolfan yn Sir y Fflint.

Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ddewis safle Asiantaeth Amddiffyn Gydrannol ac Electronig (DECA) yn Sealand, Sir y Fflint, fel eu canolfan newydd i drwsio’r awyren F35 sy’n cael eu hadeiladu gan gwmni Lockheed Martin.

Eisoes, mae 400 o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle hwn, ac mae disgwyl i’r cyhoeddiad ddiogelu’r rheiny a chreu mwy o swyddi, ynghyd â chyfrannu at ddiwydiant amddiffyn y Deyrnas Unedig.

Bydd y gwaith yn cynnwys trwsio darnau mecanyddol, trydanol, tanwydd a systemau hydrolig yr awyrennau, ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn 2018.

Swyddi ac economi

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gwneud Cymru yn ganolbwynt atgyweirio hanfodol ar gyfer cefnogi’r awyren F-35 ac yn cadarnhau ein statws fel arweinwyr mewn technoleg awyrennau,” meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Rwy’n falch iawn bod yr arbenigedd sy’n bodoli yng Nghymru, ynghyd â’r gweithlu medrus, wedi cael eu cydnabod gan y cytundeb hwn. Bydd yn arwain at fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd i economi Gogledd Cymru,” meddai wedyn.