Mae dyn busnes o dde Lloegr wedi achosi tipyn o ffrae ar wefan gymdeithasol Twitter, trwy feirniadu cwmni creision Jones o Gymru am drydar yn Gymraeg.

Mae David Thomas, trefnydd teithiau golff o Wessex, wedi dweud wrth golwg360 fod gweld y Gymraeg ar Twitter yn ei ddiflasu, ac nad oes pwrpas anfon negeseuon yn yr hen iaith sydd ddim yn addas ar gyfer y 60 miliwn o siaradwyr Saesneg yng ngwledydd Prydain.

Roedd y neges wreiddiol gan gwmni Jones o Gymru yn hysbysebu Pencampwriaeth Bara Brith y Byd, ac yn ei ymateb gwreiddiol i’r neges a oedd yn cyhoeddi pwy fyddai beirniaid y bencampwriaeth, dywedodd David Thomas: “Daliwch ati i siarad Cymraeg os liciwch chi, ond dyw hi’n gwneud dim i’ch gwerthiant chi – wnaf fi ddim dilyn rhagor.”

Mewn neges arall, wrth ddatgan bod 60 miliwn yn siarad Saesneg yng ngwledydd Prydain, a dim ond 700,000 yn siarad Cymraeg, dywedodd, “Oes angen dweud mwy o ran synnwyr busnes?”

Dywedodd mewn neges arall, ar ôl i @jonnywilliams ddweud y byddai’n mynd i gwrs golff Llangefni yn hytrach nag i’w gwrs yntau, dywedodd David Thomas fod Clwb Golff Llangefni’n “gwrs bach mursennaidd” beth bynnag.

‘Diangen, gwirion ac anfasnachol’

Wrth amddiffyn ei sylwadau, dywedodd David Thomas wrth golwg360: “Dw i’n edrych ar gyrsiau golff yng Nghymru ac mae gweld y Gymraeg yn fy niflasu. Beth yw’r pwynt?

“Does gen i ddim byd yn erbyn yr iaith frodorol. Ond beth yw pwynt targedu 60 miliwn o bobol gyda neges ar Twitter na fyddan nhw’n ei deall?”

Dywedodd fod ganddo brofiad personol o glywed y Gymraeg yng Nghymru – mewn rali geir – ond bod “pawb wedi troi at y Gymraeg” pan gerddodd i mewn i safle’r stiwardiaid.

Ac ychwanegodd, “Dyw’r Gymraeg ddim yn poeni dim arna’ i. Does gyda fi ddim diddordeb yn y Gymraeg. Does gyda fi ddim problem gyda chynnal y Gymraeg…  ond os ydyn nhw [Jones o Gymru] yn croesi’r ffin i Loegr ac yn dechrau siarad Cymraeg, beth ddiawl maen nhw’n ei wneud?

“Alla i ddim gweld synnwyr mewn negeseuon yn Gymraeg yn unig. Mae’n ddiangen, yn wirion ac yn anfasnachol.”

Saesneg, iaith y byd

Wfftiodd David Thomas yr awgrym ei bod yn “gwneud synnwyr” marchnata’n ddwyieithog i “griw mor fach o bobol”.

Pan ofynnodd golwg360 iddo am lwyddiant busnesau mewn gwledydd dwyieithog ar draws y byd, ychwanegodd “nad ydyn ni yng ngweddill y byd. Rydyn ni ym Mhrydain, a iaith Prydain yw Saesneg”.