Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd i edrych ar ôl prosiect cwrs rasio Glyn Ebwy.

Ar ôl derbyn llythyr gan y Gweinidog Economi Ken Skates i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciad o £7.3 miliwn i dalu dyledion y cwmni, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod amheuon ynghylch hyfywedd ariannol Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd yn “cynyddu”.

Dyw’r daith i wireddu’r prosiect sydd werth mwy na £370 miliwn – sef datblygu trac rasio modur “o’r radd flaenaf” ym Mlaenau Gwent – heb fod yn un hawdd gyda phroblemau ariannol a chynllunio o’r dechrau

Er ei fod yn gwerthfawrogi’r budd economaidd fyddai’r trac rasio’n dod i’r ardal a Chymru, mae Andrew RT Davies bod y £7.3 miliwn wedi ei fenthyg yn codi mwy o amheuon a yw Llywodraeth Cymru wedi dewis y cwmni iawn i symud y prosiect yn ei flaen.

Dywedodd Andrew RT Davies: “Yng ngoleuni’r datgeliad diweddaraf, mae’n rhaid i rhywun ofyn pam nad oedd y cwmni’n gallu talu ei gredydwyr.

“O ystyried cymaint o filiynau o bunnoedd mewn arian cyhoeddus sydd eisoes wedi cael ei wario ar y prosiect, rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgelu os yw’n warantydd i unrhyw fenthyciadau eraill.

“Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweld y prosiect hwn hyd at y diwedd ond mae’r un mor hanfodol bod y cyhoedd yn derbyn sicrwydd ynglŷn â pha mor effeithiol mae’r arian yn cael ei wario ac a fydd y prosiect yn y tymor hir yn dwyn unrhyw ffrwyth.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y benthyciad wedi cael ei roi fel bod y cwmni’n gallu datblygu cynllun busnes manwl.