Teery Jones yn Theatr Colwyn
Mae’r awdur a’r cyfarwyddwr, Terry Jones, un o griw Monty Python, wedi ennill BAFTA Cymru am gyfraniad eithriadol i Ffilm a Theledu.

Yn enedigol o Fae Colwyn, mae Terry Jones yn dioddef o salwch Aphasia Cynradd Flaengar, sy’n fath o Ddementia, ac felly doedd e ddim yn gallu bod yn y parti enwebiadau neithiwr.

“Mae’r salwch yn effeithio ar ei allu i gyfathrebu ac nid yw bellach yn gallu rhoi cyfweliadau,” meddai cynrychiolydd ar ei ran.

“Mae Terry yn falch iawn am yr anrhydedd o gael ei gydnabod yn y modd hwn ac yn edrych ymlaen at y dathliadau.”

‘Dim sylw’ i golur fel arfer

Artist colur a gafodd ei henwebu am Oscar eleni, fydd yn cael Gwobr Siân Phillips yng Ngwobrau’r BAFTA am ei chyfraniad i ffilmiau rhyngwladol.

Bydd Siân Grigg yn derbyn gwobr sydd yn y gorffennol wedi ei rhoi i bobol megis Rhys Ifans, Michael Sheen a’r newyddiadurwr, Jeremy Bowen.

Dywedodd ei bod yn “anrhydedd” derbyn ei gwobr a hynny am nad yw gwaith coluro mewn ffilmiau fel arfer yn cael cymaint o ystyriaeth.

“Yn aml, nid yw colur yn cael sylw gan ei fod yn gyfrwng i helpu adrodd stori a dylai bylu i mewn i’r ffilm, felly mae’n hyfryd ei fod yn cael ei amlygu yn y ffordd hon,” meddai.

Mae Siân Grigg wedi bod yn gweithio ar sawl ffilm enwog, gan gynnwys, Titanic, The Aviator a The Revenant yn fwy diweddar, a gafodd ei henwebu am Oscar a BAFTA amdani.