Arweinydd y frwydr tros annibyniaeth yn Iwerddon ydi arwr gwleidyddol Aelod Seneddol y Ceidwadwyr tros Aberconwy, ac fe fu Guto Bebb yn egluro pam yn ei Ddarlith Glyndwr yng nghanolfan Galeri, Caernarfon.

Wrth draddodi am ei bryderon am y modd y mae gwleidyddion Bae Caerdydd wedi gwastraffu’r pwerau a drosglwyddwyd o’r Swyddfa Gymreig i’r Cynulliad newydd yn 1999, fe aeth Guto Bebb ati i ddefnyddio Michael Collins yn Iwerddon i ddarlunio ei ddadl.

Mae’n mynnu fod y pwerau a fu gan yr hen Swyddfa Gymreig ers 1964 ac a roddodd i Gymru ei Deddf Iaith yn 1993, a ffordd ddeuol yr A55 i ogledd Cymru, wedi’u trosglwyddo i Fae Caerdydd yn 1999. A’r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y 17 mlynedd ers hynny, meddai Guto Bebb, ydi esgusodi diffyg gweithredu “nes y cawn ni fwy o bwerau”.

Mae hynny’n ei atgoffa o’r gwahaniaeth rhwng dau o arweinwyr Iwerddon yn 1921, meddai.

“Dw i’n meddwl fod Collins yn arwr gwirioneddol, ac mae hynny oherwydd ei ymateb o i Gytundeb Heddwch 1921 yn Iwerddon.

“Hynny yw, dau arweinydd mawr Iwerddon – Eamonn De Valera a Michael Collins – a’r gwahaniaeth rhwng y ddau oedd bod un wedi gweld y posibiliadau, ac roedd y llall wedi gweld y diffygion… Oedd un eisiau mynd ar ôl y symboliaeth, a’r llall eisiau gweithredu…

“A’r rheswm y mae o (Michael Collins) yn arwr i mi ydi, be’ fasa wedi gallu bod,” meddai Guto Bebb wedyn. “Ac yn y cyfnod byr yr oedd o’n arwain llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon, nid cwyno am ddiffygion y Cytundeb oedd Michael Collins ond, yn hytrach, byrdwn ei neges o oedd be’ oedd y posibiliadau.

“Am y cyfnod byr yr oedd o’n rhan o lywodraeth y Free State, mi oedd o wedi datblygu cynllun i gael amryw o orsafoedd hydro ar y Shannon; mi oedd ganddo fo gynlluniau lle’r oedd o’n cyfeirio at ardaloedd menter fyddai’n gallu cael rhyddhad o dreth; mi oedd ganddo fo syniadau i herio’r ffin oedd wedi cael ei chytuno rhwng y Gogledd a’r De…

“Ac yn fwy na hynny oedd y syniad yma mai’r ffordd o berswadio’r Gogledd i mewn i’r Weriniaeth, ydi trwy ddangos bod y Weriniaeth yn gweithio. Hynny yw, ei uchelgais o oedd sicrhau bod y Cytundeb yn gweithio, ac ar ôl cael y Cytundeb i weithio, bod yna fwy o siawns o gael Iwerddon i uno.

“Nid oherwydd unrhyw orfodaeth, ond oherwydd eu bod nhw wedi creu llwyddiant economaidd.”