Maes awyr Caerdydd (Llun: CC2.0/M J Richardson)
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Carwyn Jones yn hallt am deithio i America o faes awyr Heathrow yn hytrach na maes awyr Caerdydd.

Dywed Andrew RT Davies fod hynny’n “cyfleu neges ofnadwy i fuddsoddwyr posib” gan bwysleisio fod Maes Awyr Caerdydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru.

Daw ei sylwadau wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno llythyr ysgrifenedig i’r Prif Weinidog yn holi am fanylion, treuliau a chost ei daith.

Mae Carwyn Jones ar ymweliad ag America i geisio denu buddsoddiad i Gymru yn sgil Brexit, a thros y pum diwrnod nesaf mae disgwyl iddo ymweld â gwleidyddion ac arweinwyr busnes yn Atlanta, Cincinnati a Chicago.

Ac mewn ymateb i’r cais, dywedodd y Prif Weinidog nad yw’n bosib gwybod beth fydd cost lawn ei daith tan y bydd wedi dychwelyd.

‘Penderfyniad rhyfeddol’

“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei bod yn bryd i werthu Cymru fel na wnaed erioed o’r blaen, ac unwaith eto mae wedi dewis peidio â defnyddio’r maes awyr rhyngwladol y mae ei lywodraeth yn berchen arni,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’n benderfyniad rhyfeddol ac yn cyfleu neges ofnadwy i fuddsoddwyr posib, ac yn sicr y cyhoedd yn ehangach.

“Ac mae’r esgus nad oes hediadau uniongyrchol i America ddim yn dal dŵr chwaith; dydy hedfan o Lundain ddim yn uniongyrchol pan mae’n golygu gyrru dwy awr a hanner yno yn y lle cyntaf,” meddai wedyn.

Pwysleisiodd: “Gallai cael maes awyr hyfyw a chydnabyddedig fod yn ddylanwad anferthol wrth godi proffil rhyngwladol Cymru, ond eto yn anffodus, mae Carwyn fel pe bai’n ffafrio Maes Awyr Heathrow cyn yr un mae ei lywodraeth wedi gwario degau o filiynau o bunnoedd arni.”

‘Nonsens rhagrithiol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hyn yn nonsens rhagrithiol gan y Torïaid. Mae ymweliadau rhyngwladol gan y Prif Weinidog a therfynau amser tynn, felly mae hediadau uniongyrchol yn aml yn hanfodol. Yn wahanol i Brif Weinidog blaenorol y Torïaid, nid ydym wedi prynu awyren breifat sy’n costio dros £10 miliwn.

“Fodd bynnag, rydym yn falch iawn bod y Ceidwadwyr Cymreig bellach yn ymddangos fel eu bod yn ymddiddori yn y maes awyr yr oedden nhw, ar un adeg,  am weld yn mynd i’r wal.

“Caerdydd yw’r maes awyr sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda’r cyfanswm o deithwyr yn 1,326,923 – mae hyn yn cynrychioli twf o 29%  yn nifer y teithwyr dros y 12 mis diwethaf.”