Mae dyn 50 oed o Gasnewydd wedi’i gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol, gyda’r bwriad o beryglu bywyd, yn dilyn digwyddiad yn y ddinas ym mis Ebrill eleni.

Fe gafodd Heddlu Gwent eu galw i gyfeiriad yn Stryd Siôr, Casnewydd tua 7.30yh nos Sadwrn, Ebrill 2, wedi adroddiadau o ffrwydriad. Roedd y ffrwydriad wedi achosi difrod mawr i’r eiddo ac i adeiladau cyfagos.

Fe gafodd dyn 50 oed ei gludo i Ysbyty Treforys bryd hynny, yn diodde’ o anafiadau a oedd yn bygwth ei fywyd, a doedd yr heddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae disgwyl i’r achos gael ei glywed yn Llys y Goron Caerdydd ar Dachwedd 28. Mae’r diffynnydd wedi pledio’n euog i gynnau tân yn fwriadol, ond mae’n gwrthod y bwriad o anafu.