Mae dau wedi marw mewn tân mewn eiddo yn Neganwy fore heddiw.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo yn Gannock Park West, Deganwy am 7.42am y bore yma.
Cafodd criwiau tân o Landudno a Bae Colwyn eu hanfon i’r digwyddiad ond bu farw dyn a dynes yn y tân.
Llwyddodd dynes arall i ddianc o’r eiddo cyn i’r diffoddwyr tân gyrraedd.
Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru nawr ar y gweill.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cau’r ffordd o ganlyniad i’r tân ac maent yn gofyn i’r cyhoedd osgoi’r ardal.
Dywedodd yr Arolygydd Kelly Isaacs o Orsaf Heddlu Llandudno bod y ddau fu farw’n “oedrannus”.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd alla’i fod wedi gweld rhywbeth i gysylltu â nhw ar 101 gan dyfynnu rhif cyfeirnod U122660.