Mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu bod dau o gynghorwyr Plaid Cymru yn cyhuddo Cyngor Gwynedd o anwybyddu cynnig gafodd ei basio gan fwyafrif o gynghorwyr, a hynny mewn cyfarfod llawn yn gynharach eleni.

Daeth y cynnig dan sylw ar derfyn cyfarfod ar Fawrth 18, wedi i nifer o gynghorwyr o bob plaid ladd ar y Cynllun Datblygu Lleol sy’n sôn am roi caniatâd cynllunio i godi 4,292 o dai newydd yn y sir.

Mae gwrthwynebwyr y Cynllun – yn awduron, dramodwyr, actorion a cherddorion yn ogystal â chynghorwyr Plaid Cymru ac ymgyrchwyr iaith – yn dadlau y bydd y tai yn bwydo’r mewnlifiad a gwanhau sefyllfa’r Gymraeg.

Ond mae cynllunwyr y Cyngor yn dadlau y bydd y tai yn bywiogi cymunedau a helpu’r iaith, a’r cynghorydd Plaid Cymru sy’n arwain ar Gynllunio yn “hyderus bod penderfyniad y Cyngor llawn yn cael ei weithredu mewn modd cadarn”.

Y cynnig

Roedd y cynnig gafodd ei basio fis Mawrth yn galw ar swyddogion y cyngor i ‘ymgynghori ar ffyrdd o gyfoesi monitro effaith y sefyllfa gynllunio bresennol ac arfaethedig ar y Gymraeg.

‘Dylai hwnnw ddigwydd gyda defnydd llawn o ffigyrau Cyfrifiad 2011 a hefyd gydag ystyriaeth o addasrwydd gwaelodol y nifer tai a phoblogaeth sydd yn sail i’r Cynllun’.

Ond yn ôl un cynghorydd mewn neges e-bost i’w chyd-gynghorwyr Plaid Cymru ar Awst 1, mae cynllunwyr Cyngor Gwynedd wedi anwybyddu’r cynnig.

Yn ei neges e-bost roedd gan y Cynghorydd Gweno Glyn, aelod o’r Blaid sy’n cynrychioli ward Botwnnog ym Mhen Llŷn, neges blaen i’r Cynghorydd Dafydd Meurig sy’n gyfrifol am Gynllunio ar Gabinet Cyngor Gwynedd.

‘Dw i yn siomedig iawn ac yn drist iawn gyda dy ymddygiad tila,’ meddai Gweno Glyn.

‘Dw i wedi colli unrhyw fath o ffydd oedd gen i tuag atat. Dw i’n gofyn yn garedig i ti wireddu a gweithredu yr hyn a basiwyd yn y cyfarfod arbennig nôl ym mis Mawrth, mae’n warthus fy mod i yn gorfod gofyn i ti weithredu yr hyn a basiwyd yn ddemocrataidd yn y cyngor brys llawn.’

‘Rhywbeth gwag i’w ddweud i gau ceg’

Gyda Chyngor Gwynedd wedi gosod y targed o gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg o 65% i 70% yn y sir erbyn 2021, mae rhai cynghorwyr yn amau na fydd modd gwireddu’r nod oherwydd effaith y tai newydd.

Mewn neges e-bost yn mynegi ei bryderon am nifer y tai yn y Cynllun Datblygu Lleol, ac yn poeni bod cynnig mis Mawrth yn cael ei anwybyddu, mae’r Cynghorydd Aled Evans o Blaid Cymru yn dweud: ‘teimlad mai dim ond rhywbeth gwag i’w ddweud i gau ceg y rhai sy’n poeni am yr iaith yw’r 5%’.

Ac fe ddywedodd wrth Golwg ei fod yn dal i aros i’r cyngor egluro wrtho pam fod angen cynllunio ar gyfer miloedd o dai newydd. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei baratoi ers 2011.

“Os ydach chi’n cael mwy o dai nag sydd angen yma, mae beryg i chi gael mewnlifiad,” meddai’r Cynghorydd Aled Evans sy’n cynrychioli ward Chwilog.

‘Ymwybodol o bryderon’

Mae’r Cynghorydd Dafydd Meurig, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Gynllunio, wedi dweud ei fod yn “ymwybodol bod pryderon wedi eu hamlygu am y broses, gan aelodau tu mewn i fy ngrŵp a thu allan. Rwy’n deall y pryderon hynny, yn enwedig mewn ardaloedd ble mae pobl leol yn ei chael hi’n anodd i brynu tai yn eu hardaloedd eu hunain ac rydw i wedi cynnig cyfarfod gyda’r cynghorwyr hynny i drafod eu pryderon.”

Ond mae’n mynnu ei fod  “yn hyderus bod penderfyniad y Cyngor llawn yn cael ei weithredu mewn modd cadarn”.

“Mae’r broses o weithredu’r Penderfyniad wedi cychwyn, ar ffurf dwy ffrwd waith. Bydd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn adolygu Canllaw Cynllunio Atodol ‘Cynllunio a’r iaith Gymraeg’ 2009, a bydd hefyd yn gwneud gwaith i sicrhau bod y ffyrdd a ddefnyddir i asesu effaith datblygiad yn yr ardal dros gyfnod o amser yn gyfoes, gan barhau i gynnwys defnydd llawn o ffigyrau Cyfrifiad 2011 ac unrhyw dystiolaeth arall berthnasol. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf bydd yr Uned yn ymgynghori ar y ddwy ffrwd gwaith gydag unigolion, grwpiau/ mudiadau penodol, ynghyd a’r cyhoedd, cyn cyflwyno argymhellion i’r Aelodau Etholedig.”
Mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.