Ddydd Sul nesa’, fe fydd plismyn o Heddlu De Cymru yn gorymdeithio er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Pride Cymru ydi enw’r digwyddiad sydd wedi dod yn ddathliad o gyfartaledd ac amrywiaeth.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobol yn dod i Gaerdydd ar gyfer Pride Cymru,” meddai’r Prif Uwcharolygydd Belinda Davies. “Ac unwaith eto, fe fydd ein swyddogion ni yno’n gweithio er mwyn gwneud yn siwr fod popeth yn mynd rhagddo yn ddiogel.

“Ond fe fydd heddweision na fydd yn gweithio, yn dangos eu cefnogaeth trwy gymryd rhan yn yr orymdaith trwy ganol dinas Caerdydd.

“Mae’n bwysig ein bod yn hyrwyddo pwysigrwydd y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a hefyd yn tynnu sylw at droseddau casineb.”