Mae’r llythrennau breision Croeso Cymru sydd wedi’u gweld yn Nant Gwynant a Llandegla dros yr wythnos ddiwethaf bellach yn symud tua’r de.

Bydd modd gweld y llythrennau 4 metr o uchder sy’n sillafu’r gair ‘EPIC’ yng Nghwm Elan o heddiw hyd at Awst 16.

Mae’r llythrennau wedi’u gwneud o ddrychau ac maent yn rhan o ymgyrch farchnata Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan antur, a byddan nhw’n ymweld â lleoliadau eraill ar draws y wlad yn ystod yr haf.

Ond, mae’r llythrennau wedi bod yn destun trafod diweddar wedi i’r arbenigwr iaith, Bruce Griffiths, ddweud wrth golwg360 nad oedd yn cytuno â sillafiad y gair.

“Arwrol ydi epig yn Gymraeg, hanes, ymdrech arwrol ac yn y blaen. Dydi o ddim yn gwneud yr un fath o synnwyr i mi,” meddai.

‘Tirluniau dramatig’

Er hyn, cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymgynghori a chael cadarnhad gan Eiriadur Prifysgol Cymru tros ddefnydd y gair.

Ac un sy’n edrych ymlaen at groesawu’r arwydd i’r ardal o gronfeydd yng Nghwm Elan yw Ed Parsons o Ddŵr Cymru, a ddywedodd: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r gosodiad i Gwm Elan.

“Mae’r golygfeydd yma’n odidog ac rydym yn falch iawn o gael ein dewis fel lleoliad gan fod cynifer o dirluniau gwych ar gael yng Nghymru.

“Rydym yn sicr y bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn, a bydd yn helpu i ddenu sylw pawb at olygfeydd Cymru a’i thirluniau dramatig,” meddai Ed Parsons wedyn.