Mae cyhuddiad wedi’i ollwng yn erbyn mam oedd wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth ei mab pum mlwydd oed mewn gwrthdrawiad car yng Nghaerdydd y llynedd.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe glywodd Laura Bright, 23 oed o Laneirwg, na fydd achos yn ei herbyn yn dilyn marwolaeth ei mab Joseph Smith ym mis Medi’r llynedd.

Er hyn, mae disgwyl i’w phartner Dean Collins, 22 oed, sefyll ei brawf ym mis Rhagfyr, ac mae’n gwadu achosi marwolaeth ac anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.