Kyle Kennedy
Mae dyn 29 oed a gafwyd yn euog o achosi marwolaeth dyn a’i fab drwy yrru’n beryglus, wedi’i ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar heddiw.

Fe achosodd Kyle Kennedy o Dredelerch, Caerdydd, farwolaeth Simon Lewis, 33, o Trowbridge, Caerdydd a’i fab – oedd heb ei eni ar y pryd – mewn gwrthdrawiad nos galan y llynedd.

Fe wnaeth Daihatsu Sirion Simon Lewis a’i deulu wrthdaro gyda Peugeot 307 ar Lamby Way yn y brifddinas.

Roedd ei wraig, Amanda, a’u merch dair oed Summer, yn y car hefyd. Cafodd Simon Jr ei eni yn fuan ac ar frys ar Ionawr 3 ond bu farw yn yr ysbyty’r diwrnod hwnnw.

‘Torcalon’ y teulu

“Er ein bod yn falch o’r ddedfryd heddiw, all ddim byd ddod â Simon a Simon Jr yn ôl atom,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Rydym fel teulu yn torri’n calonnau dros beth ddigwyddodd ar 31 Rhagfyr a fydd y twll sydd wedi’i adael yn ein bywydau byth yn cael ei lenwi.

“Ond bellach mae’r profiad drosodd, a gallwn ddechrau ail-adeiladu ein bywydau nawr.”

Diolchodd y teulu i’w ffrindiau a’r gymuned ehangach am eu cymorth, ac i uned ymchwilio i wrthdrawiadau heddlu’r de a’r swyddog cyswllt y teulu.