Sue Lent
Mae ASau Llafur sy’n gwrthryfela yn erbyn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn ymddwyn yn “gyfrwys ac yn Maciafelaidd” yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd.

Dywedodd Sue Lent wrth golwg360 bod y ffordd mae arweinydd y blaid yn cael ei drin yn San Steffan yn “ofnadwy”, a bod yr Aelodau Seneddol wedi bod yn disgwyl am unrhyw reswm i herio’i awdurdod ers iddo ennill etholiad i fod yn ben ar y blaid yr haf diwethaf.

Ychwanegodd y cynghorydd sy’n cynrychioli ward Plasnewydd ar y Cyngor bod Corbyn yn parhau i dderbyn cefnogaeth fawr ar lawr gwlad.

Gwnaeth ei sylwadau wrth i ganghellor yr wrthblaid, John McDonnell, ddweud heddiw ei bod hi’n debygol y bydd Jeremy Corbyn yn wynebu her yn “y dyddiau nesaf”.

Mae disgwyl i Angela Eagle ac AS Pontypridd Owen Smith daflu eu henwau i’r het i herio Corbyn, ond mae Sue Lent yn disgwyl i Jeremy Corbyn ddal ei afael ar yr arweinyddiaeth.

Meddai Sue Lent: “Mae llawer iawn o gynghorwyr ac aelodau Llafur yn parhau i gefnogi Jeremy Corbyn. Roedd hi’n amlwg o’r dechrau nad oedd ASau Llafur yn hapus i’w gael fel arweinydd ac mae tystiolaeth eu bod nhw wedi bod yn cynllwynio yn ei erbyn yr holl amser – Hilary Benn ac Angela Eagle yn arbennig.

“Os yw pethau’n parhau fel hyn, rwy’n ofni y bydd aelodau yn troi yn erbyn eu Haelodau Seneddol. Ond os gawn ni frwydr arweinyddiaeth ddemocrataidd arall, fe wnaiff Jeremy Corbyn ennill eto.”

“Sbeit pur”

Y peth gwaethaf am y sefyllfa yn ôl Sue Lent yw ei fod yn annemocrataidd gan fod cyn gymaint o aelodau’r Blaid wedi pleidleisio dros Corbyn yn y lle cyntaf.

“Mae hyn yn fwy nag arweinyddiaeth Jeremy erbyn hyn,” meddai. “Mae o am ddemocratiaeth. Fe enillodd o bron iawn i 60% o’r bleidlais – buddugoliaeth argyhoeddedig o dan y system newydd o ddewis arweinydd – ond byddai wedi ennill o dan yr hen system hefyd gyda’r math yna o gefnogaeth.”

Un cynnig gan Sue Lent i ddwyn ASau i gyfrif am eu gweithredoedd, yw i newid y system fel bod yn rhaid i ASau geisio eto am enwebiad y blaid yn eu hetholaethau ym mhob etholiad. Byddai hynny, meddai, yn decach o lawer.

“Mae beth mae’r ASau yn ei wneud yn sbeit pur. Tydyn nhw methu dioddef y ffordd wnaethon nhw golli ac maen nhw’n ymddwyn yn gyfrwys ac yn Maciafelaidd.

“Mae pobl yn gofyn i mi sut all o gario ymlaen yn y swydd. Yr ateb, yn y bôn, yw oherwydd ei fod yn credu ei fod yn iawn. Ac os bydd rhaid iddo gamu i lawr, bydd yr anhrefn yn anfesuradwy.

“Ond os yw’n cael ei herio ac mae’n ennill yr arweinyddiaeth eto, bydd yn rhaid i’r Aelodau Seneddol un ai derbyn ei awdurdod neu adael y Blaid Lafur a chreu plaid newydd eu hunain.”