Alun Cairns
Mae Cadeirydd y pwyllgor sy’n goruchwylio Mesur Cymru yn y Cynulliad, Huw Irranca-Davies AC, wedi mynegi pryder dybryd fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru,  Alun Cairns wedi gwrthod gwahoddiad i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor.

Cafodd Mesur Cymru ei feirniadu gan y gwrthbleidiau, pan gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol gan Lywodraeth Prydain, am ei fod yn gymhleth ac yn drysu’r broses ddatganoli. Ond fe wnaeth Llywodraeth Prydain ymateb drwy ailwampio’r Mesur yn ddiweddar ac mae bellach ar ei ffordd drwy Senedd Prydain.

Fe ddywedodd Huw Irranca-Davies sy’n cadeirio’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol “Mae gan Fesur Cymru oblygiadau hirdymor ar gyfer ansawdd y cyfreithiau y caiff y Cynulliad eu gwneud, a pha mor hawdd fydd hi i bobl Cymru ddeall cyfreithiau eu gwlad.”

Yn ôl Huw Irranca-Davies mae’r Mesur yn parhau’n gymhleth:

“Er ei bod yn glir bod y Mesur wedi gwella rywfaint ers i ddrafft Mesur Cymru gael ei gyhoeddi, rydyn ni eisoes wedi clywed bod y Mesur yn dal i fod yn gymhleth ac y gallai fod yn gam yn ôl o gymharu â’r setliad datganoli presennol.

“Gan fod y cyfnod Pwyllgor ym mhroses drafod Tŷ’r Cyffredin ar y Bil i ddod i ben ar 11 Gorffennaf, roedd y Pwyllgor wedi gobeithio y byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu rhoi goleuni ar y Bil newydd a’n helpu ni ddeall beth y mae’n ceisio’i gyflawni.”

Mae’r pwyllgor eisoes wedi clywed tystiolaeth gan gyfreithwyr ac arbenigwyr ar y cyfansoddiad. Fe fydd y pwyllgor yn clywed barn pobl o bob rhan o Gymru wrth ystyried y Bil gan gymryd tystiolaeth gan y Prif Weinidog a’r Llywydd ddydd Llun a dydd Mercher yr wythnos nesaf.

Mae golwg360 wedi gofyn i swyddfa Alun Cairns am ymateb.