(llun: PA)
Mae cannoedd o bobl wedi bod yn protestio ar y strydoedd ar ôl y bleidlais Brexit yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ymgyrchwyr Brexit yn cael eu cyhuddo o ddefnyddio hiliaeth, a phobl ifanc wedi bod yn cyhuddo’r to hŷn o danseilio eu dyfodol.

Mae torfeydd wedi bod yn gorymdeithio trwy Lundain i bencadlys News UK, cyhoeddwyr y papur newydd y Sun, fel rhan o rali yn erbyn ‘gwleidyddiaeth gwrth-fewnfudo’.

Mae protestiadau tebyg wedi bod yn Glasgow a Chaeredin hefyd i ddangos cefnogaeth i fudwyr ac yn erbyn y “llifeiriant o hiliaeth” yn ystod yr ymgyrch.

Mewn protest arall, fe fu pobl ifanc yn protestio’r tu allan i giatiau Downing Street, gan ddweud fod pobl hŷn wedi gwneud cam mawr yn eu herbyn.

Meddai un ohonyn nhw, Paddy Baker, 21 oed:

“Roedd y bleidlais hon yn rhy agos i fynd trwodd. Pobl hŷn a bleidleisiodd dros hyn, ond ni yw’r rhai sydd am deimlo’r canlyniadau. Fe fydda’ i’n teimlo’r canlyniadau am weddill fy mywyd.”

Mwyafrif llethol

Mae arolwg barn yn cadarnhau bod y mwyafrif llethol o bobl ifanc wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl yr arolwg gan YouGov, roedd 75% o bleidleiswyr 18-24 oed wedi cefnogi aros a 56% o bleidleiswyr 25-49 oed.

Pleidleisiau’r to hŷn a drodd y fantol, gyda 56% o bobl 50-64 oed a 61% o rai dros 65 yn cefnogi Brexit.

Mae’r canlyniad wedi cael ei ddisgrifio fel “anghyfiawnder mawr i genedlaethau’r dyfodol” gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Mae eu dyfodol wedi cael ei gymryd gan genedlaethau hŷn,” meddai Tim Farron mewn araith ddoe.

“Mae’n drasiedi fod pleidleiswyr hŷn, y bobl sydd wedi gallu elwa o integreiddio Ewropeaidd, wedi amddifadu’r bobl sy’n eu holynu o’r cyfle hwnnw.”