Ken Skates a'r car carbon
Mae car hydrogen carbon isel a gafodd ei ddylunio a’i adeiladu ym Mhowys, wedi cael grant gwerth £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru.

Y Rasa yw’r car cyntaf o’i fath yn y byd – mae tua thair gwaith mor effeithlon â cheir hydrogen eraill sydd ar werth ar hyn o bryd.

Cwmni Riversimple Engineering o Landrindod sy’n gyfrifol am greu’r car, a’u gobaith yw adeiladu hyd at 5,000 o geir tebyg bob blwyddyn yn y dyfodol.

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates, ei fod yn falch o weld technoleg o’r fath yn cael ei ddatblygu yng Nghymru.

“Dyma’r union fath o dechnoleg Ymchwil a Datblygu yr ydym eisiau ei denu i Gymru a hoffwn ddymuno llwyddiant parhaus i Riversimple wrth iddynt anelu at ddatblygu ac ehangu eu busnes,” meddai.

Cyrraedd 60 mya

Bydd y car, sy’n gallu cyrraedd cyflymder o 60 milltir yr awr a mynd o 0 i 50 mya mewn wyth eiliad, yn mynd ar daith hyrwyddo i ddinasoedd ledled Prydain.

Mae’r cerbyd yn gweithio drwy gael ei bŵer o gelloedd hydrogen, ac mae ganddo system frecio atgynhyrchiol er mwyn gallu ail-gipio ynni sy’n galluogi’r car i gyflymu.

Cafodd ei ddylunio gan Chris Reitz, dylunydd ceir adnabyddus yn Ewrop sydd wedi cydweithio â chwmnïau Fiat ac Alfa Romeo.