O'r chwith, Caroline Lucas (y Blaid Werdd), Leanne Wood (Plaid Cymru), Nicola Sturgeon (SNP) Llun: Rick Findler/PA Wire
Mae arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP yn yr Alban a’r Blaid Werdd yn Lloegr wedi dod at ei gilydd unwaith eto i ddadlau’r achos dros gadw Prydain yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Ers eu cynghrair yn etholiadau San Steffan y llynedd, mae’r tair plaid wedi uno eto, gan alw ar bobol sy’n “rhannu gwerthoedd blaengar, sydd am ddiogelu hawliau dynol a chymdeithasol ac yn cefnogi cydraddoldeb” i bleidleisio dros aros yn yr UE.

Gan annog pobol i bleidleisio ar 23 Mehefin, fe wnaeth Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP, ac unig AS y Gwyrddion, Caroline Lucas gyhoeddi datganiad ar y cyd yn San Steffan.

‘20,000 o swyddi’

“Mae Cymru’n gryfach, yn fwy diogel ac yn elwa o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Leanne Wood.

Ychwanegodd, gan ategu ffigurau’r Canghellor, George Osborne heddiw, fod “20,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fynediad i’r farchnad sengl.”

“O ganlyniad i’n  haelodaeth o’r UE, mae gennym ddeddfwriaeth ar gydraddoldeb, ar yr amgylchedd, ac ar hawliau gweithwyr a phrynwyr, ar ffermio ac ansawdd bwyd, cyfreithiau ar newid hinsawdd a llawer mwy.”

‘Llais cryfach’ i Gymru yn Ewrop

“Mae Plaid Cymru am i Gymru gael llais cryfach mewn Undeb Ewropeaidd wedi’i ddiwygio am ein bod ni’n gwybod bod Cymru’n elwa o fod yn rhan ohono.

“Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn cyflwyno’r achos dros Gymru gref a ffyniannus o fewn Ewrop well.”

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, y byddai gadael yr UE yn peryglu hawliau pobol i deithio o amgylch yr undeb yn rhydd, ynghyd a hawliau mamolaeth a thadolaeth pobol Prydain.

Ychwanegodd bod yn rhaid i’r “bygythiadau a’r codi bwganod sydd wedi nodweddu’r ddadl ynghylch aelodaeth o’r UE o’r ddwy ochr, ddod i ben.

“Mae’n bryd i ni gael trafodaeth wybodus ar rinweddau aelodaeth yr UE,” meddai.

Tra bod Caroline Lucas o’r Blaid Werdd yn cyfaddef nad yw’r UE yn “berffaith” dywedodd bod modd ei wneud yn fwy democrataidd ac atebol “os byddwn yn aros yn aelod ac yn brwydro i’w wella.”