Bydd modd gweld y blaned Mercher am ychydig oriau heddiw
Bydd pobol yng Nghymru yn gallu gweld y blaned Mercher heddiw, wrth iddi groesi o flaen yr haul.

O ganol dydd ymlaen bydd y blaned i’w gweld fel smotyn du bychan ar yr haul, y tro cyntaf iddi ymddangos 10 mlynedd – ond mae arbenigwyr wedi rhybuddio pobol i beidio ac edrych arno heb offer pwrpasol.

Bydd y blaned yn rhy fach i’w gweld drwy lygaid cyffredin ond bydd modd gweld y cwbl ar-lein ar Asiantaeth Ofod Ewrop.

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnal digwyddiad gwylio, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn y brifddinas ac yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Bydd modd gweld y blaned o Gymru o ganol dydd tan tua 7:45, yn ôl arbenigwyr.

 ‘Pwysig’ i ddeall y bydysawd

Er mai Prydain yw un o’r llefydd gorau i weld y blaned y tro hwn, mae arbenigwyr yn rhybuddio na ddylai unrhyw un edrych yn syth at yr haul, hyd yn oed os byddwch yn gwisgo sbectol haul.

Dywedodd y seryddwr, Dr Marek Kukula, fod gweld y blaned yn bwysig gan ei bod yn helpu arbenigwyr i ddarganfod systemau solar y tu allan i’n un ni, a’n helpu i ddeall y bydysawd.

“Wrth i chi edrych y smotyn du bychan hwn yn ymlusgo ar hyd wyneb yr haul, rydych mewn gwirionedd yn gweld rhywbeth sydd yr un maint ag Affrica, 100 miliwn o gilomedrau i ffwrdd, yn symud ar gyflymder o 50 cilomedr yr eiliad,” meddai.