Mae plaid wleidyddol newydd wedi cael ei sefydlu yng Nghymru, gyda’r nod o greu Cymru sofran, yn annibynnol o Lywodraeth Llundain a’r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd Cymru Sovereign ei sefydlu ym mis Mawrth 2016 a bydd un ymgeisydd yn sefyll dan enw’r blaid yn etholiadau’r Cynulliad eleni.

Bydd Gruff Meredith, sylfaenydd y blaid, yn sefyll yn etholaeth Gorllewin Casnewydd, gyda phrif bolisïau’r blaid yn cynnwys creu banc canolog i Gymru a sefydlu punt Gymreig ‘diddyled’.

Un o’r gobeithion yn yr etholiad eleni, meddai Gruff Meredith, yw tynnu pleidleisiau oddi ar UKIP, ac mae’r ymateb wedi bod yn “bositif” ymhlith ei phleidleiswyr.

“Mae lot ohonyn nhw’n deall yr egwyddor o sofraniaeth, ac mae lot ohonyn nhw eisiau hynny i Gymru,” meddai’r ymgeisydd wrth golwg360.

“Mae lot o’r pwyntiau mae UKIP wedi’u gwneud, mae’r Cynulliad wedi methu eu trafod yn gall achos eu bod yn ofn cael eu galw’n hiliol,” meddai’r blaid sydd am gael “system bwyntiau rhesymol ar fewnlifiad i Gymru”.

‘Dim bwriad’ mynd yn erbyn Plaid Cymru

Does dim bwriad cystadlu yn erbyn Plaid Cymru, yn ôl y blaid, ond yn hytrach “creu plwraliaeth yng Nghymru” a “chael pleidiau sydd dros Gymru”.

“Mae ganddyn nhw lot o syniadau dwi’n cytuno â nhw, ond mae angen gwahaniaeth barn ar bethau fel Ewrop a sofraniaeth go iawn i Gymru,” ychwanegodd Gruff Meredith.

Cyfaddefodd fod yr ymateb ar y strydoedd i’w blaid newydd wedi bod yn “gymysg”, ond bod llawer yn cytuno bod angen i’r Cynulliad fod yn “fwy na siop siarad”.

“Dwi eisiau gwneud [y Cynulliad] yn Senedd go iawn i Gymru, dw i ddim yn disgwyl rhyw fath o landslide enfawr ond mae’n gyfle da i gael y syniadau yma o sofraniaeth allan”.

Y prif wahaniaeth rhwng Cymru Sovereign a Phlaid Cymru, meddai’r blaid, yw eu bod nhw am gael “annibyniaeth lwyr” o San Steffan ac Ewrop, tra bod Plaid Cymru o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Twyll” yr Undeb Ewropeaidd

Dywedodd Gruff Meredith ei fod yn credu mai “twyll” yw’r syniad o Undeb Ewropeaidd.

“Dw i hollol o blaid Ewrop fel cyfandir ond dydy hynny ddim yr un peth a bod â’r Undeb Ewropeaidd, dydy o ddim yn ddemocrataidd, cael eu penodi mae’r Comisiwn [Ewropeaidd], nid eu hethol,” meddai.

“Mae’n beryg go iawn, corfforaethau sy’n rheoli’r sioe mwy neu lai,” ychwanegodd gan gyfeirio at gytundeb posib TTIP rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau fyddai, meddai e, yn rhoi mwy o bwerau i gwmnïau mawrion.

Rhyw fath o “gyngor neu gonfensiwn” Ewropeaidd, nid “super-state” yr Undeb Ewropeaidd sy’n “beryg bywyd”, y mae Cymru Sovereign eisiau ei weld yn ôl Gruff Meredith.

Am y tro, y gobaith realistig i’r blaid yw cael “llond llaw” o bleidleisiau, ond bod codi’r pwyntiau hyn am sofraniaeth ac am ddiffygion yn yr Undeb Ewropeaidd yn bwysicach.

“Mae ‘na gefnogaeth, mae ‘na bobol sydd eisiau sofraniaeth i Gymru,” ychwanegodd.

Mae rhagor o bolisïau’r blaid i’w gweld ar ei gwefan.

Rhestr lawn o ymgeiswyr Gorllewin Casnewydd yn etholiadau’r Cynulliad:

Pippa Bartolotti (y Blaid Werdd)

Jayne Bryant (Llafur)

Simon Dennis Coopey (Plaid Cymru)

Matthew Evans (Ceidwadwyr)

Bill Fearnley-Whittingstall (Annibynnol)

Mike Ford (UKIP)

Gruff Meredith (Sofraniaeth o Lundain ac o’r UE)

Liz Newton (Democratiaid Rhyddfrydol)