Ail Bont Hafren - disgwyl traffig trwm (Llun parth cyhoeddus)
Mae disgwyl traffig trwm i mewn i Gymru y prynhawn yma a heno wrth i’r tywydd gynhesu ychydig tros benwythnos Gŵyl y Banc.

Yn ôl cymdeithas foduro’r RAC, fe fydd 20 miliwn o deithiau hamdden yn cael eu gwneud yng ngwledydd Prydain tros y penwythnos.

Y disgwyl yw y bydd 10 miliwn o geir yn cael eu defnyddio – un o bob tri o’r cerbydau sydd wedi eu trwyddedu.

Y mannau gwaetha’ fel rheol yng Nghymru yw Pont Hafren, ardal Casnewydd a Phort Talbot ar yr M4 yn y De a’r A55 i mewn i Gymru yn y Gogledd.

Y tywydd

Mae’r proffwydi tywydd yn dweud y bydd yn cynhesu rhywfaint tros y Sul, er y bydd gwyntoedd a chawodydd trymion.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai dydd Sadwrn fydd orau, gyda chyfnodau heulog yn gymysg â chawodydd.