Mewn prosiect i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy ym maes technoleg newydd, mae adnoddau newydd wedi cael eu creu a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i bobol siarad yr iaith â chyfrifiaduron.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn datblygu prototeip system cwestiwn ac ateb ar gyfrifiadur, tebyg i’r system ‘Siri’ ar I-phone Apple.

Yn ddibynnol ar ddiddordeb yn y farchnad, y gobaith yn y dyfodol yw y bydd y cynorthwyydd personol Cymraeg cyntaf, sef Macsen, ar ffonau a thabledi pob un ohonom sydd am siarad Cymraeg â’r cyfrifiadur.

Cyfrifiadur yn ateb cwestiynau

Eglurodd Delyth Prys, un o gydlynwyr y prosiect fod Macsen bellach yn gallu ateb pedwar cwestiwn – Beth yw’r newyddion? Sut mae’r tywydd? Faint o’r gloch yw hi? a Rho ddihareb i mi.

“O fewn blwyddyn, mi fydd gennym ni rywbeth llawer iawn gwell, yn gweithio’n gynt, o well ansawdd ac yn gallu adnabod mwy o gwestiynau,” meddai Delyth Prys wrth golwg360.

“Y peth mawr yw eich bod yn gallu siarad â fe’n Gymraeg a’i fod yn gallu deall Cymraeg.

“Mae’n fwy addas ar gyfer datblygwyr, codwyr a phobol sy’n rhedeg clybiau codio i blant, lle maen nhw’n gallu ei defnyddio fel mae hi a’i hymgorffori yn eu cynnyrch neu eu gwersi.”

Arian gan y Llywodraeth ac S4C

Mae Canolfan Bedwyr wedi cael £49,864 gan Lywodraeth Cymru a £10,000 gan S4C i ddatblygu’r feddalwedd.

“Er mwyn i’r iaith Gymraeg barhau i ffynnu fel iaith gyfoes, mae’n glir fod angen iddi addasu a chyfrannu at gymaint o elfennau o fywyd modern ac sy’n bosib,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Mae cynnig ystod eang o ddyfeisiadau a thechnoleg sy’n gallu deall a chyfathrebu yn Gymraeg yn ganolog i hyn.”

Bydd yr Uned Technolegau Iaith ym Mangor yn cyflwyno’r adnoddau newydd yng nghynhadledd Hacio’r Iaith yng Nghaerdydd yfory.