Mae BT wedi cyhoeddi y bydd yn recriwtio 900 o bobl i weithio yn ei fusnes diogelwch fel rhan o ymdrech y cwmni i ddiogelu ei gwsmeriaid, busnesau a llywodraethau rhag y bygythiad cynyddol o droseddau seibr.

Fe fydd y rhan fwyaf o’r swyddi wedi’u lleoli yn y DU yn ei safleoedd gan gynnwys Caerdydd, Llundain a Sevenoaks.

Mae’r cwmni’n disgwyl penodi a hyfforddi 170 o raddedigion a phrentisiaid fel rhan o’r cynllun recriwtio yn ystod y 12 mis nesaf.

Dywedodd llywydd Diogelwch BT bod nifer o achosion diweddar o droseddau seibr wedi hawlio’r penawdau a bod hynny wedi arwain at “gynnydd mawr yn y diddordeb gan gwsmeriaid ac adrannau TG i wybod beth yw’r ffordd orau o ddiogelu eu hunain a’r byd digidol.”