Mae cwmni bwyd a gafodd ei sefydlu’n wreiddiol gan Dywysog Cymru, yn gwerthu ac yn hybu cig oen o Seland Newydd.

Archfarchnad Waitrose sy’n gwerthu’r amrywiaeth o nwyddau dan yr enw ‘Duchy Originals’ – cwmni a gafodd ei sefydlu gan y Tywysog Charles yn 1990.

Pan gysylltodd golwg360 â swyddfa’r Tywysog yn Clarence House heddiw, doedden nhw ddim am wneud sylw ar y mater, a hynny gan nad oes gan y Tywysog “ddim i’w wneud â’r nwyddau bwyd”, medden nhw.

Er hynny, partneriaeth rhwng swyddfa’r Tywysog a Waitrose yw’r cwmni.

‘Cywilyddus’

Mae’r ffarmwr defaid o Lanfairfechan, Gareth Wyn Jones, wedi galw’r cam yn un “cywilyddus”.

“Mae o (y Tywysog Charles) wedi dweud erioed ei fod eisiau edrych ar ôl y fferm deuluol a (gwella) ôl troed carbon, roedd e’n ticio pob bocs bron ond mae wedi rhoi croes ym mhob un nawr,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n dorcalonnus i ni fel diwydiant. Mae’n mor rhwystredig bod nhw (yr archfarchnadoedd) yn cael gwneud beth maen nhw’n gwneud.

“Pam ddim defnyddio cig Prydeinig? Mae o wedi bod (yn cefnogi’r) amgylchfyd ac ymgyrch ‘Buy British’ ac mae ‘na ddigon o gig oen yn y wlad yma rownd y flwyddyn. Does ‘na’m esgus.

“Dwi methu deall pam bod brand fel y Duchy yn gwneud beth maen nhw’n gwneud, mae hynny’n gywilyddus.”

Y Tywysog yn ‘diogelu amaethyddiaeth Brydeinig’

Ar ei wefan, mae’n dweud bod Tywysog Charles yn “poeni’n fawr am gefn gwlad a lles cymunedau gwledig.”

“Mae cynnal a chadw sector amaethyddiaeth iach yn hanfodol i’r wlad, nid am yn unig fod y tirlun yn dibynnu ar wybodaeth cymunedau ffermio, ond hefyd am fod adeiladwaith cymdeithasol cefn gwlad yn dibynnu ar sail ffermio cryf.”

Mae hefyd yn noddwr ar sawl sefydliad er mwyn “cynnal cymunedau gwledig a diogelu amaethyddiaeth Brydeinig.”

Undeb yn ‘siomedig’

“Mae’r tywysog Siarl yn llysgenad pwysig dros y diwydiant amaethyddol ac mae wedi bod yn allweddol er mwyn annog y cyhoedd i gefnogi ffermwyr Prydain,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wrth golwg360.

“Mae’n hynod o siomedig i ni bod y brand ‘Duchy Waitrose’ yn gwerthu cig oen Seland Newydd yn nhymor cig oen gwanwyn Cymru.

“Mae’n angrhediniol y byddai’r Tywysog yn rhoi ei enw ar gig sydd wedi teithio o ochor arall y byd a ninnau yn cynhyrchu cig oen o safon uchel yma a rei stepen drws,” meddai Glyn Roberts wedyn.