Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod gyrrwr lori wedi cael ei ladd mewn damwain ger Hwlffordd yn Sir Benfro.

Fe ddigwyddodd y ddamwain fore ddydd Mawrth ar ffordd yr A4076 rhwng Hwlffordd a Johnston.

“Yn anffodus roedd y gyrrwr wedi marw yn y fan a’r lle,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

“Rydym wedi rhoi gwybod i’r teulu.”

Does dim awgrym hyd yn hyn bod cerbyd arall wedi bod yn rhan o’r ddamwain.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio o hyd wrth i’r ffordd barhau i fod ar gau.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys y dylai unrhyw dystion i’r digwyddiad gysylltu â nhw drwy ffonio 101.