Mae ystadegau’n dangos bod cartrefi gwag yn broblem ar hyd a lled Cymru.

Mae grant cartrefi gwag ar gael i bobol sy’n berchen ar eiddo ar hyn o bryd ac sydd angen cymorth i’w wneud yn ddiogel cyn symud i mewn, neu sy’n ystyried prynu eiddo gwag i fyw ynddo, ond fod angen cymorth arnyn nhw i’w ddod yn ôl i ddefnydd.

Gallai pobol ag eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros ddeuddeg mis fod yn gymwys am grant o hyd at £25,000 i’w helpu i ailddefnyddio’u heiddo a’i wneud yn fwy effeithlon o ran ynni.

“Rydym yn darparu cefnogaeth, gan gynnwys cyllid drwy nifer o gynlluniau i helpu i leihau nifer y cartrefi gwag,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.

“Er enghraifft, mae Cyngor Gwynedd yn cymryd rhan yn y cynllun grant Cartrefi Gwag cenedlaethol, y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £50m dros ddwy flynedd i ddod â hyd at 2,000 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

“Yn ôl data Stats Cymru, yn 2023-24 mae 22,457 eiddo gwag hirdymor trethadwy yng Nghymru, gyda 1,446 ohonynt yng Ngwynedd.

“Fel rhan o’r cynllun grant Cartrefi Gwag, mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi awdurdodau lleol, lle hoffent wneud hynny, i gymhwyso meini prawf cysylltiadau lleol i’r cymhwysedd ar gyfer y grant yn eu hardal.

“Mae Cyngor Gwynedd yn un o’r awdurdodau lleol sydd wedi dewis cynnwys hyn fel gofyniad i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i bobol sydd â chysylltiad lleol i fyw yn yr ardal.

“Drwy’r cynllun grant Cartrefi Gwag cenedlaethol, mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i berchen-feddianwyr/darpar feddianwyr i wneud eiddo’n ddiogel, cynnes a diogel i fyw ynddo.

“Fel rhan o delerau’r cynllun grant Cartrefi Gwag cenedlaethol, mae yna ofyniad i wella effeithlonrwydd ynni’r eiddo.”