Mae dynes o Dalysarn yn dweud y dylid rhoi gwyliau ar adegau gwahanol i blant Cymru a Lloegr, gan fod gor-dwristiaeth yn golygu bod plant ar eu colled wrth geisio gwneud gweithgareddau.

Mae gan Madeleine Beattie ddau o blant, ac roedd hi wedi ceisio mynd â nhw i Gypsy Wood yng Nghaernarfon yn ystod gwyliau’r haf.

Ond cafodd hi wybod fod y lle’n llawn, a bod angen tocynnau i fynd yno.

Mae hi’n credu bod y diwydiant twristiaeth ar ei golled oherwydd bod y gwyliau ar yr un pryd, oherwydd dydy llefydd poblogaidd ddim yn gallu gwasanaethu pawb.

‘Angen i blant allu mwynhau lle maen nhw’n byw’

“Rwy’n meddwl y byddai’n syniad gwych i Gymru gael gwyliau ar wahân i Loegr, oherwydd pan fydd plant o Gymru yn ceisio mwynhau lle maen nhw’n byw, y broblem yw bod llawer o leoedd wedi cael eu harchebu, ac all plant ddim mynd i wneud y pethau maen nhw eisiau gwneud,” meddai Madeleine Beattie wrth golwg360.

“Mae rhieni yn tynnu eu gwallt o’u pennau, yn ceisio meddwl am bethau i’w gwneud; mae’r traethau a’r llynnoedd yn llawn.

“Oni fyddai’n well gwahanu’r gwyliau fel y gall plant Cymru fwynhau eu gwyliau a gwneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud?

“Byddai twristiaeth yn cynyddu.

“Mae’n rhaid i Greenwood [Gelli Gyffwrdd], neu hyd yn oed stablau marchogaeth Eryri, droi pobol i ffwrdd yn ystod gwyliau’r haf oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o geffylau na digon o docynnau.

“Yn anffodus, mae plant ar eu colled oherwydd bod y gwyliau ar yr un pryd.

“Rydym yn croesawu’r diwydiant dwristiaeth o Loegr, ond rwy’n meddwl y byddai’n well i blant yng Nghymru a Lloegr gael gwyliau ar wahân.

“Rwy’n meddwl y byddai’n decach i blant Cymru mewn ffordd.”

Twristiaeth ar i fyny

Ers diwedd cyfnodau clo Covid-19, mae twristiaeth ar i fyny unwaith eto, sy’n golygu ei bod hi’n fwy anodd fyth i fynd i lefydd sy’n boblogaidd ymhlith twristiaid.

“Ar ôl Covid, roedd lleoedd yn orlawn,” meddai wedyn.

“Allen ni ddim mynd i unrhyw le gyda’r plant.

“Ceisiais fynd â’r plant i Gypsy Wood un diwrnod, a dywedon nhw wrthyf fod angen bwcio ymlaen llaw a bod y parc yn llawn.

“Yn wreiddiol, fe allech chi fynd i rywle yng Nghymru a phrynu tocynnau’r diwrnod hwnnw.

“Yr ochr arall yw bod Greenwood [Gelli Gyffwrdd] yn rywle gwych i fynd gyda’ch plant dros yr haf, ond os yw’n orlawn, mae’ch plentyn yn aros awr a hanner am reid, a dydych chi ddim yn cael gwerth eich arian.

“Mae’r diwydiant dwristiaeth yn dioddef oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu cynnig tocyn i bawb, felly os yw gwyliau’n cael ei wneud ar wahân, byddai’n gwneud llawer mwy o synnwyr.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae ein Rhaglen Lywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar ddiwygio’r flwyddyn ysgol, ac mae’r gwaith hwnnw ar y gweill,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion yn gosod eu dyddiadau tymor eu hunain ddwy flynedd ymlaen llaw, ac yn cydweithio i’w gwneud nhw mor debyg i’w gilydd â phosib ledled Cymru.

“Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y byddai Llywodraeth Cymru’n rhan o osod dyddiadau tymhorau.”