Mae rhai miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio drwy ganol dinas Abertawe tros annibyniaeth i Gymru.

Dechreuodd yr orymdaith gyda baneri a phibyddion ar Wind Street yn Sgwâr y Castell, cyn i’r dorf ymlwybro tuag at Amgueddfa’r Glannau.

Ymhlith y siaradwyr roedd Liz Saville Roberts (Plaid Cymru), yr awdur Mike Parker, Anthony Slaughter (y Blaid Werdd), a’r Albanwr Robin McAlpine.

Daeth cymeradwyaeth fwya’r dorf i Mirain Angharad Owen, a dyma gyhoeddi ei hanerchiad yn llawn:


 

Pibyddion yn diddanu ac yn cynhesu’r dorf cyn dechrau’r orymdaith

 

Mae’r neges yn glir – dydy San Steffan ddim bellach yn gweithio i Gymru

 

Y baneri Celtaidd gyda’i gilydd ger muriau’r hen gastell

 

Cerdded i gyfeiliant drymiau Band Merched Beca

 

Neges syml – Cymru Rydd!

 

Cofiwch Dryweryn, meddai’r ddau yma

 

Y Ddraig Goch yn cyhwfan yn falch ar y Kingsway yn Abertawe

 

Roedd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ymhlith y rhai fu’n gorymdeithio

 

Bomio edafedd ar Wind Street

 

Phyl Griffiths o Yes Cymru Merthyr fu’n arwain o’r llwyfan yn y rali ger Amgueddfa’r Glannau

 

Yr awdur Mike Parker oedd y siaradwr cyntaf wrth i’r rali ddechrau ger Amgueddfa’r Glannau

 

Mae Mirain Angharad yn gwybod pam fod angen annibyniaeth, meddai, a’r dorf yn gwybod hefyd – ond ydy gweddill Cymru’n gwybod?

 

Roedd Robin McAlpine wrth ei fodd yn clywed y Gymraeg yn Abertawe – a gweld yr haul, meddai

 

Mae annibyniaeth yn rywbeth mwy na gwleidyddiaeth bleidiol, meddai Liz Saville Roberts