Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi i bedwar safle yng Ngwynedd dreialu cynllun i gartrefi modur aros dros nos.

Y bwriad yw cynnig lleoliadau aros dros nos tebyg i ‘aires’ ar y cyfandir er mwyn sicrhau gwell rheolaeth o’r maes, meddai Cyngor Gwynedd.

Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu ‘Arosfannau’ ym maes parcio Doc Fictoria (cyn safle Shell) yng Nghaernarfon; Y Glyn yn Llanberis; maes parcio’r Maes yng Nghricieth a Chei’r Gogledd ym Mhwllheli.

Mae gwaith yn parhau i geisio adnabod safle addas ar gyfer darparu lleoliad Arosfan yn ardal Meirionnydd.

Fodd bynnag, mae rhai meysydd carafanio wedi gwrthwynebu’r cynlluniau gan ddweud eu bod nhw’n pryderu y bydd y cynlluniau’n effeithio ar eu busnes.

Y cynlluniau

Bydd pob un o’r safleoedd Arosfan yn cynnig lle i hyd at naw o gartrefi modur a fydd yn talu ffi i barcio am uchafswm o 48 awr.

Byddan nhw’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol.

Ni fydd gan bobol hawl i gynnau tanau na chael barbeciws ar y safleoedd, ac mae Cyngor Gwynedd hefyd wrthi’n cyflwyno gorchmynion penodol a fydd yn atal hawl cartrefi modur i barcio dros nos yn anghyfreithlon mewn cilfannau lle mae hynny wedi bod yn broblem yn ddiwddar.

Bwriad y Cyngor wrth gyflwyno’r gorchmynion yma ar yr A496 ar y ffordd i mewn i’r Bermo, ar yr A497 ger Cricieth ac ardal Y Foryd ger Caernarfon yw cryfhau grymoedd y Cyngor i reoleiddio’r maes.

Parchu cymunedau Gwynedd 

Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi, mae’r safleoedd Arosfan am ddatblygu twristiaeth gynaliadwy.

“Mae hyn yn gam pwysig ac yn arwydd clir ein bod ni fel Cyngor am ddatblygu sector twristiaeth gynaliadwy sy’n parchu cymunedau Gwynedd,” meddai Nia Jeffreys.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydan ni wedi gweld llawer mwy o gartrefi modur yn ymweld â’n hardaloedd, ac mae’n naturiol fod ymwelwyr am fwynhau’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.

“Mae’r lleoliadau ar gyfer yr ‘Arosfannau’ wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol yma yng Ngwynedd, ac yn cynnig arhosiad uchafswm o 48 awr.

“Y bwriad ydi annog defnydd o gysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd lleol yn ogystal â sicrhau nad yw busnesau lleol yn colli allan wrth i bobl ddod i fwynhau’r profiad twristiaeth unigryw sydd gan Wynedd i’w gynnig.”

Disgwylir y bydd y safleoedd ar agor yn barod ar gyfer haf eleni.

Meysydd carafanio yn gwrthod cynlluniau Cyngor Gwynedd ar gyfer llefydd parcio i gartrefi modur

Elin Wyn Owen

“Mi fydd o’n effeithio ein busnes ni’n fawr,” meddai perchennog un parc carafanio ger Llanberis