Mae cais i godi ysgol gynradd tair i unarddeg oed, gyda lle i 240 o ddisgyblion, yng nghanol Ceredigion wedi cael ei gefnogi gan gynllunwyr y sir.

Mewn cyfarfod ddoe (dydd Mercher, Mai 10), fe wnaeth Pwyllgor Rheoli Datblygiad Cyngor Sir Ceredigion gefnogi argymhelliad i gymeradwyo’r cais, gafodd ei wneud ar ran Cyngor Sir Ceredigion gan Wynne Construction, i godi Ysgol Gynradd Dyffryn Aeron ar safle tir glas yn Felinfach, ar yr heol rhwng Aberaeron a Llanbed.

Y cais

Mae’r cais llawn ar gyfer ysgol gynradd un llawr, gydag Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol, Canolfan Iaith, Meithrin, mynediad trwy heol newydd, a maes parcio gyda 103 o lefydd parcio, yn ogystal ag ardal chwarae amlbwrpas a chae 3G â llifoleuadau, a gweithfeydd cysylltiedig.

Bydd yr ysgol newydd yn tynnu tair ysgol gynradd arall ynghyd, sef Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ysgol Gynradd Dihewyd ac Ysgol Gynradd Felinfach, yn ogystal â’r Ysgol Feithrin bresennol, a chanolfan drochi iaith yn Felinfach.

Bydd hefyd yn creu cyfleuster meithrin newydd ar gyfer plant dwy a thair oed, ynghyd â chyfleuster cymunedol a darpariaeth Uned Adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddisgyblion sy’n byw yng nghanol y sir.

Bydd yr ysgol tair i unarddeg oed yn darparu ar gyfer 30 o lefydd meithrin a 210 o lefydd yn yr ysgol gynradd.

Yn ôl amcangyfrifon, bydd 56 o staff dysgu’n cael eu cyflogi ar draws yr holl gyfleusterau – 40 yn y brif ysgol, deg yn y tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwech arall yn y dosbarth meithrin.

Gwrthwynebiad

Mae un gwrthwynebiad wedi’i dderbyn, a hwnnw’n codi pryderon am golli golau, sŵn, llygredd, a chreu traffig.

Roedd pryderon wedi’u codi hefyd am y pris gafodd ei dalu am y tir, a cholli gwerth o gymharu ag eiddo cyfagos.

Tra bod Cyngor Cymuned Ystrad yn cefnogi’r cais, mae wedi codi pryderon am addasrwydd a diogelwch mynediad.

Yn y cyfarfod ddoe (dydd Mercher, Mai 10), fe wnaeth aelod lleol, Ceris Jones sy’n gynghorydd yn Llanfihangel Ystrad, ddisgrifio’r cynlluniau fel “datblygiad cyffrous iawn i’r ardal”, gan gydnabod ei bod hi’n “gwybod nad yw at ddant pawb fod tair ysgol yn cau”.

Fe wnaeth Marc Davies, cynghorydd Ciliau Aeron oedd wedi cefnogi’r cais, gefnogi sylwadau Ceris Jones.

“Mae pawb wedi cyffroi’n fawr am y datblygiad hwn; mae addysg yng Ngheredigion ymhlith yr orau yng Nghymru,” meddai.

Datganiad dylunio a mynediad

Yn eu datganiad dylunio a mynediad, dywedodd yr asiant TACP Architects Ltd, y byddai’r datblygiad “yn dod â safon y ddarpariaeth addysg sydd ar gael yn Nyffryn Aeron i fyny i safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif”.

“Bydd hefyd yn cyflwyno ysgol sy’n gweithredu ar sail carbon sero-net, sy’n cyfrannu at ymdrechion Cyngor Ceredigiion i weithredu awdurdod carbon-sero erbyn 2030,” meddai.

Derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion gymeradwyaeth ar gyfer Cynnig Amlinelliad Strategol ym mis Rhagfyr 2021 gan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Mae tir yng nghornel de-ddwyrain y safle yn y cais wedi’i ddiogelu ar gyfer datblygu adeilad theatr yn y dyfodol, a dydy hynny ddim yn rhan o’r cais.

Disgwyl cymeradwyo ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Ngheredigion

Mae disgwyl i’r ysgol gael ei chodi yn Felinfach