Fe ddaru cannoedd o bobol ifanc Gwynedd gymryd rhan yng Ngŵyl Llesiant Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd eleni.

Nod yr ŵyl, gafodd ei chynnal yn ddiweddar ar draws y sir dros gyfnod o bum niwrnod, oedd hybu iechyd meddwl a lles da ymhlith pobol ifanc.

Roedd Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd yn teimlo bod yr Ŵyl Llesiant yn llwyddiannus y llynedd, a hefyd yn hyderus y cafodd effaith gadarnhaol ar fywydau pobol ifanc y sir.

Cafodd ei chydnabod yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022, gyda’r ŵyl yn ennill y wobr ‘Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol’.

Llwyddiannus eto eleni

Roedd y Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd yn teimlo bod yr ŵyl eleni hefyd yn llwyddiannus, gyda thros gant o sesiynau’n cael eu cynnal ledled y sir.

Maen nhw’n dweud bod yr ŵyl yn gynhwysol, yn hwyl, ac yn addysgiadol, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobol ifanc, gan gynnwys taith i Alton Towers, taith bowlio, taith sglefrio iâ a golchi ceir ym Mhorthmadog at achos da.

Cafodd llawer o sesiynau llesiant eu cynnal hefyd mewn ysgolion, oedd yn cynnwys sesiynau gwnïo, Lego, a delio â straen ymhlith phethau eraill.

Yn ogystal, cafodd cystadleuaeth ei chynnal ar draws Gwynedd gyda gwobrau’n cynnwys aelodaeth deuluol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am flwyddyn, aelodaeth Byw’n Iach am flwyddyn a thalebau siopa.

Roedd y tasgau ar gyfer y gystadleuaeth yn cynnwys dylunio masgot ar gyfer yr ŵyl, creu poster positifrwydd, creu fideo byr am fwyta’n iach, creu barddoniaeth am gadw’n iach, a thynnu llun yn dangos y pum ffordd at les.

‘Profiad gwerth chweil gyda llawer o gyfleon’

“Profiad gwerth chweil gyda llawer o gyfleon,” meddai person ifanc sydd wedi bod ynghlwm â’r paratoadau.

“Dw i wedi dysgu am fy hawliau fel person ifanc,” meddai un arall.

“Nifer o brofiadau gwahanol a llawer o hwyl,” meddai un arall eto, a phedwerydd yn dweud ei bod “wedi bod yn grêt, anturus, creadigol a llawer o hwyl!”

Roedd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd â chyfrifoldeb dros Blant a Phobol Ifanc, hefyd yn falch o weld llwyddiant y digwyddiad.

“Mae natur gynhwysol a hwyliog yr ŵyl wedi caniatáu amrywiaeth o weithgareddau a sesiynau, a chymeradwyaf Ieuenctid Gwynedd, ein partneriaid ac wrth gwrs pobol ifanc y sir am eu gwaith caled a’u hymroddiad i wneud y digwyddiad hwn yn bosib,” meddai.

“Rydym yn falch o gefnogi mentrau fel hyn sy’n rhoi blaenoriaeth i les ieuenctid ein cymuned ac yn edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn parhau i dyfu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”