Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cynnal digwyddiad arbennig yn Llanberis ar Ebrill 24 i drafod y posibilrwydd o wneud yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.

Bydd busnesau lleol yn dod ynghyd yng Ngwesty’r Royal Victoria fel rhan o’r prosiect ‘Yr Wyddfa di-blastig’, menter gafodd ei lansio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth iddyn nhw ymateb i bryder cynyddol am effeithiau gwastraff plastig ar yr amgylchedd.

Mae’r priosect yn anelu i godi ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol llygredd plastig ar harddwch naturiol yn ardal yr Wyddfa, a’r angen am ymarferion cynaladwy.

Nod y digwyddiad yw i’r Awdurdod ddechrau ar y ‘Llwybr Di-blastig’ gyda busnesau ym mharth yr Wyddfa, a datblygu fframwaith hygyrch ar gyfer Cynllun Gwobrwyo Di-blastig.

Bydd yn manylu ar sut i ymgysylltu gyda ymwelwyr am sbwriel, ffyrdd o leihau’r defnydd o blastig untro a chanfod ffyrdd o ailgylchu ac ailddefnyddio.

‘Gwarchod yr amgylchedd o’n cwmpas’

“Yn ein gwesty ar droed yr Wyddfa, rydym yn credu’n gryf mewn gwarchod yr amgylchedd o’n cwmpas,” meddai Rob a Fiona Nicholson o Blas Coch, Llanberis.

“Dyna pam rydan ni wedi ymrwymo i leihau ein defnydd o blastig untro.

“Trwy wneud hynny gallwn gyfrannu at warchod y tirweddau anhygoel yma mae ein gwesteion yn dod i’w profi a chynorthwyo at eu diogelu ar gyfer ymwelwyr y dyfodol.”

Mi fydd siaradwyr gwadd o’r gogledd yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn ogystal â stondinau masnachol yn arddangos atebion posib i brosiect Yr Wyddfa Di-blastig.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i gael trafodaethau agored a rhannu syniadau.

“Rydym yn falch o gynnal digwyddiad ‘Yr Wyddfa Di-Blastig’ a chydweithio gyda busnesau yn ardal yr Wyddfa i warchod y mynydd a’r bywyd gwyllt,” meddai Alec Young, Swyddog Prosiect Yr Wyddfa Di-blastig.

“Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yma yn ysbrydoli perchnogion busnes lleol yn ogystal â dechrau sgyrsiau am ffyrdd allwn leihau ein defnydd o blastigion untro, trwy warchod ein elw a diogelu harddwch naturiol Eryri.”

Codi ymwybyddiaeth

Trwy godi ymwybyddiaeth am leihau gwastraff plastig ar yr Wyddfa, bydd hyn hefyd yn  amlygu problemau sbwriel ehangach yn y Parc Cenedlaethol.

Trwy ddynodi ardal yr Wyddfa’n ‘Barth Di-Blastig’, maen nhw’n manteisio ar negeseuon ‘di-blastig’ er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r niwed y gall mathau eraill o sbwriel ei wneud ar y mynydd ac ar dirweddau eraill hefyd.