Cafodd protest Adennill y Nos ei chynnal ym Mangor neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 7) er mwyn tynnu sylw at drais yn erbyn menywod, a thrais ar sail rhywedd a hunaniaeth.

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor fu’n trefnu’r digwyddiad, a hynny ddwy flynedd wedi llofruddiaeth Sarah Everard yn Llundain, achos wnaeth arwain at sgwrs genedlaethol am drais yn erbyn menywod a phrotestiadau eang.

Ddechrau’r wythnos, cafodd Wayne Couzens, sydd wedi cael ei garcharu am oes, ei ddedfrydu am droseddau rhyw ddigwyddodd ychydig ddyddiau cyn iddo lofruddio Sarah Everard.

Mae digwyddiadau Adennill y Nos wedi bod yn cael eu cynnal dros y Deyrnas Unedig ers ychydig flynyddoedd, ac mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi trefnu protestiadau cyn hyn hefyd.

Gorymdeithiwyd o’r Cloc ar y Stryd Fawr draw at Pontio gyda myfyrwyr yn datgan y dylen nhw’n allu cerdded y strydoedd yn y nos, heb ofn na realiti trais.

‘Amserol iawn’

Un roddodd araith oedd Catrin Wager o Fethesda, sydd wedi’i dewis i fod yn ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd fod y digwyddiad yn un “hynod o bwysig a hynod o amserol”.

“Cefndir Adennill y Nos ydy trio dod â thrais yn erbyn merched i ben, ac mae’n amserol iawn i fod yn edrych ar y pwnc yma,” meddai.

“Mae yna lot o sylw wedi bod yn y wasg, yn enwedig efallai sylw achos Wayne Couzens a’r ffaith bod yr achos wedi bod yn ei erbyn a’u bod nhw wedi ffeindio ei fod o wedi bod yn anweddus efo merched ychydig ddyddiau cyn iddo fo ladd Sarah Everard.

“Mae hwnna’n rhywbeth sy’n hitio rhywun yn arbennig o galed, mae o’n dod â theimladau cryf yn ôl oherwydd yr achos yna ynddo’i hun.

“Wedyn wrth gwrs, mae rhywun yn cwestiynu pam bod yna ddim mwy wedi cael ei wneud ar yr amser.

“Roedd hwnna’n rhywbeth oeddwn i’n feddwl am drwy’r broses neithiwr.

“Nid yn unig sut ydyn ni’n dod â’r ymosodiadau i ben, ond sut ydyn ni’n gwneud siŵr bod pobol yn cael eu gwrando arnyn nhw pan maen nhw yn codi llais am bethau sydd yn digwydd.

“Un o’r pethau wnaeth fy nharo i o’r achos ddoe oedd bod un o’r genod mewn dagrau yn dweud, ‘We could’ve saved Sarah’. I rywun sydd wedi dioddef rhywun yn flashio arnyn nhw a thrio riportio’r peth a gorfod byw efo’r euogrwydd yna, mae hwnna’n ofnadwy o beth. Mae hi’n victim ddwywaith yn hynny.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod lleisiau merched, ac nid yn unig merched ond unrhyw un sy’n codi achos fel yna, yn cael eu gwrando arnyn nhw ac yn cael eu cymryd o ddifrif.”

A hithau yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw (dydd Mercher, Mawrth 8), mae Catrin Wager yn gobeithio y bydd cyfle i glodfori’r “gwaith arbennig sy’n digwydd gan ferched ar draws y byd”, ond yn nodi bod hwnnw’n “dod efo ryw gyd-destun digon tywyll efo’r nifer o ymosodiadau yn erbyn merched”.

“Yr ONS yn dweud bod 7% o ferched wedi profi trais yn y cartref, 3% wedi profi ymosodiad rhywiol, 5% wedi priodi rhyw fath o stalking,” meddai.

“Dydy hyn ddim yn iawn yn ein cymdeithas ni, ac mae angen newid hyn.”

Catrin Wager (ar y chwith) yn y brotest

Safiad yn erbyn casineb

Cafodd y brotest ei hagor gydag araith gan Nyah Lowe, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, a bwysleisiodd bod yr orymdaith eleni’n sefyll yn erbyn trais ar sail rhywedd a hunaniaeth, a bod hynny’n cynnwys menywod, y gymuned LHDTC+, pobol anneuaidd a mwy.

“Dw i’n meddwl bod hwnnw’n bwynt pwysig ofnadwy, ac ofnadwy o amserol ar y funud,” meddai Catrin Wager wedyn.

“Rydyn ni’n wynebu ryw dwf, dw i’n teimlo, mewn siarad casineb – ieithwedd ein llywodraeth ni yn San Steffan, yr iaith mae pobol fel Suella Braverman yn ei defnyddio. Dw i ddim yn meddwl bod o’n iawn yn ein cymdeithas ni.

“Mae amseru hwn efo’r ffaith ei bod hi’n cyflwyno’i bil mudo’r wythnos yma hefyd yn amserol.

“Rhaid i ni ddechrau taclo bob math o ymosodiadau casineb, boed nhw’n rhai ar sail rhyw, rhywedd, hil, bob math, achos dw i’n teimlo bod hwn yn fater sy’n mynd yn eithaf tocsig ac mae’n rhaid i ni gymryd safiad yn ei erbyn o.

“Fedrwn ni ddim derbyn y math yma o iaith ac ymosodiadau sy’n gallu dod ohono fo.

“Enghraifft arall fyswn i’n rhoi, mae Stop Hate UK wedi dweud yn 2001/2002 i 2021/22, roedden nhw wedi gweld cynnydd mewn troseddau casineb o 19%.

“Mae o’n teimlo fel bod hyn yn cynyddu, ac mae’n rhaid i ni gymryd safiad yn ei erbyn o sy’n golygu bod rhaid i ni ddod at ein gilydd a herio sefyllfaoedd sy’n annog casineb ac sy’n troi pobol yn erbyn ei gilydd.

“Myfyrwyr wnaeth drefnu hwn, nhw sy’n gwneud y galwadau yma. Dw i wir yn diolch iddyn nhw am fod wedi trefnu hyn yn y lle cyntaf.”

‘Dangos cydsafiad’

Dywedodd Nyah Lowe ei fod yn ddigwyddiad pwysig sy’n rhoi cyfle i bobol ddod ynghyd i sefyll erbyn trais.

“Credwn fod gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel, ac mae’r orymdaith hon yn ffordd i ni ddangos ein cydsafiad â’r rhai sydd wedi profi aflonyddu neu ymosodiad rhywiol.

“Rydym yn falch o fod wedi gweld cymaint o bobl yn pleidleisio ar gyfer yr orymdaith.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r mater ac yn gweithio tuag at greu cymuned fwy diogel i bawb. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i sbarduno rhagor o sgyrsiau a chamau gweithredu tuag at roi terfyn ar drais ar sail rhywedd.”

Nyah Lowe, Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor