Mae nifer o fudiadau wedi mynegi pryder ynghylch bwriad Adran Addysg Gwynedd mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg.

Daw sylwadau Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith ar ôl i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gael eu cyhoeddi.

Yn dilyn y cyhoeddiad, penderfynodd swyddogion Adran Addysg Cyngor Gwynedd osod yr ysgolion uwchradd – ac eithrio Ysgol Friars ac Ysgol Tywyn – yng Nghategori 3.

Bydd ysgolion Categori 3 yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd o leiaf 60% o’r disgyblion ym ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yn yr ysgol yn Gymraeg.

Ond yn ôl y mudiadau sydd wedi mynegi pryder, dydy Categori 3 ddim yn addas ar gyfer ysgolion uwchradd Gwynedd, a hynny am y rhesymau canlynol:

  • Mae’r ymadrodd ‘ystod eang’ sy’n cyfeirio at nifer y Meysydd Dysgu a Phrofiad cyfrwng Cymraeg yn gwbl annelwig ac amhendant, ac felly’n ddiffygiol fel disgrifiad ac fel canllaw i’r ysgolion
  • Mae’n nodi isafswm cwbl annigonol o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond nid yr uchafswm. Mae’n caniatáu i gyn lleied â chwech o bob deg disgybl dderbyn llai na thri chwarter eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda bron i draean drwy’r Saesneg. Nid yw’n rhoi disgrifiad o’r ddarpariaeth fydd ar gyfer y 40% arall o’r disgyblion.
  • Mae’n annigonol i wrthsefyll a gwrthweithio’r grymusterau ieithyddol a diwylliannol sy’n erydu a thanseilio strwythur a gwead cymdeithasol y bywyd Cymraeg yng nghymunedau Gwynedd.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, bwriad y categoreiddio newydd yw “annog ysgolion i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg … a hwyluso’r broses i ysgolion symud i’r categori nesaf … i ysgolion dyfu eu darpariaeth Gymraeg”.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae bwriad Cyngor Gwynedd i ddynodi ysgolion yn rhai Categori 3 yn dangos bod angen arweiniad a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a’i bod yn allweddol i’r Ddeddf Addysg Gymraeg y bydd Llywodraeth yn ei chyflwyno o fewn y misoedd nesaf yn sicrhau addysg Gymraeg i bawb, fel nad oes unrhyw un yn cael ei amddifadu o’r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus.

‘Cwbl anfoddhaol ac annerbyniol’

Mewn neges Dydd Gŵyl Dewi mae’r mudiadau yn galw ar Gyngor Gwynedd i roi ysgolion uwchradd y sir yng nghategori uchaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ac am sefydlu trefn effeithiol o fonitro.

“Dylai Cyngor Gwynedd fod yn arwain gydag Addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, a dylai gynnig yr un ddarpariaeth ag ysgolion Cymraeg dynodedig mewn siroedd eraill,” meddai Angharad Tomos ar ran rhanbarth Gwynedd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n gwbl anfoddhaol ac annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o aelwydydd Cymraeg ac o aelwydydd di-Gymraeg yn derbyn llai o addysg cyfrwng Cymraeg na disgyblion ysgolion dynodedig Gymraeg mewn siroedd eraill.

“Mae pobol ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael ei chynnig.

“Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Ni ddylid colli’r cyfle hwn.

“Heb weithredu’n awr i wrthweithio’r tueddiadau niweidiol byddant yn ein goresgyn a bydd yn rhy ddiweddar wedyn.

“Rhaid edrych ar y sefyllfa’n wrthrychol ac yn onest, a gweithredu’n gadarn ac yn hyderus.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

“Mae hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn brif flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ac yn cynnwys ymrwymiad cadarn i’r egwyddor fod pob plentyn yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn yr ysgol ac yn gymdeithasol,” meddai Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg.

“Mae ystadegau cyfrifiad 2021 yn dangos fod 86.2% o blant 3-15 oed Gwynedd yn gallu siarad Cymraeg – canran sylweddol uwch na phoblogaeth gyffredinol y sir o 64.4%, sy’n dyst i effaith positif y gyfundrefn ysgolion yng Ngwynedd ar gynhyrchu siaradwyr Cymraeg.

“Mae ein cynlluniau arloesol yn y maes Addysg yn cael eu cydnabod ar y lefel genedlaethol gan arolygwyr Estyn a Llywodraeth Cymru ac mae’n destun balchder fod y Siarter Iaith a ddatblygwyd gan Gyngor Gwynedd bellach yn dempled ymarfer da ar gyfer gweddill y wlad.

“Wrth gwrs, nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau a dyma pam rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod pob ysgol yn y sir yn defnyddio’r newidiadau cenedlaethol i’r drefn gategoreiddio er mwyn cryfhau ein darpariaeth Gymraeg ymhellach.

“Yn ogystal, mae Adran Addysg y Cyngor yn awyddus i gydweithio gyda rhai o aelodau ein Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, a rhai o’n hysgolion uwchradd Categori 3 er mwyn adnabod cyfleoedd posib ble gallwn gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach yng Nghyfnodau Allweddol 3-5.

“Bydd canfyddiadau ac argymhellion y gwaith yma’n wedyn derbyn ystyriaeth gennyf fel Aelod Cabinet dros Addysg.”