Bydd arbenigwr yn y maes yn ailedrych ar frwydr “arwyddocaol” rhwng y Brythoniaid a’r Engl-Sacsoniaid, i ddathlu pen-blwydd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn bump oed.

O 1964 hyd ei ymddeoliad yn 2004, bu’r Athro Peter Field yn darlithio yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor ac yn arwain y radd ar Lenyddiaeth Arthuraidd.

Bu’n Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol rhwng 2002 a 2005, ac mae wedi bod wrthi’n ymchwilio i ganfod gwir leoliad Camelot, castell y Brenin Arthur.

Yn ei ddarlith, bydd yn sôn am union leoliad a dyddiad Brwydr Mynydd Baddon, ynghyd â thrafod y frwydr ei hun a rhan Arthur ynddi.

Mae dyddiad a lleoliad y frwydr wedi achosi penbleth i arbenigwyr y cyfnod, ond wrth ddychwelyd i Brifysgol Bangor bydd yr arbenigwr yn codi cwr y llen yn ei ddarlith ‘King Arthur’s Materpiece: The Battle of Badon’.

Pwrpas y ddarlith yw nodi ail-lansio’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a dathlu gwaith ei staff a’r myfyrwyr, ynghyd â chanolbwyntio ar waith yr Athro Peter Field.

“Roedd y Brenin Arthur real yn arweinydd yn y rhyfel rhwng y Brythoniaid a’r goresgynwyr Eingl-sacsonaidd yn y bumed ganrif,” meddai.

“Brwydr Mynydd Baddon oedd ei fuddugoliaeth fwyaf.

“Er ei bod bellach yn angof, mae ei heffeithiau yn dal i fod gyda ni.”

‘Buddugoliaeth olaf Arthur’

“Mae Brwydr Mynydd Baddon yn allweddol i fuddugoliaethau Arthur yn Historia Brittonum, sef gwaith gan Nennius, mynach o’r 9fed ganrif,” meddai’r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.

“Hon yw buddugoliaeth olaf Arthur yn erbyn y Sacsoniaid, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i sawl awdur ffuglen a hanes i ddatblygu delwedd o frenin a ddylanwadodd ar ei elynion ac oedd yn ennyn dewrder yn ei gydwladwyr, i ddyfynnu William o Malmesbury, hanesydd o’r ddeuddegfed ganrif.”

Y gred yw fod y frwydr wedi digwydd tua diwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched, ac mae’n bosib mai Caerfaddon oedd ei lleoliad.

Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal ar Chwefror 8 yn Narlithfa Eric Sunderland ym mhrif adeilad Prifysgol Bangor am 5 o’r gloch, ac mae gofyn i bobol gofrestru ymlaen llaw drwy e-bostio arthur@bangor.ac.uk.