Catrin Wager sydd wedi’i dewis i fod yn ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon, yn dilyn cyfres o hystingau ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n “fraint”.

Bydd rhaid disgwyl i Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru gadarnhau’r ymgeisydd ar Chwefror 16, cyn iddi fod yn ymgeisydd swyddogol.

Mae’r blaid wedi bod yn chwilio am ymgeisydd pe bai etholiad brys yn cael ei alw, yn dilyn cyhoeddiad Hywel Williams, yr Aelod Seneddol presennol, nad yw’n bwriadu sefyll eto yn yr etholiad nesaf.

Bydd yr ymgeisydd yn ei lle hyd at Orffennaf 1, pan fydd ffiniau newydd San Steffan yn cael eu mabwsiadu.

Cafodd pob un o ddarpar ymgeiswyr seneddol Arfon – Catrin Wager, Beca Roberts a Paul Rowlinson – gyfle i wneud cyflwyniad ac ateb cwestiynau aelodau’r Blaid mewn cyfarfod caëedig yn yr Institiwt yng Nghaernarfon nos Iau, Ionawr 19, ac yng Nghlwb Rygbi Bethesda y noson ganlynol (nos Wener, Ionawr 20).

Bydd Catrin Wager yn olynu Hywel Williams os oes etholiad brys.

‘Hynod o fraint’

“Mae’n hynod o fraint fod aelodau Plaid Cymru Arfon wedi ymddiried ynof fi i fod yn ymgeisydd dros dro ar gyfer etholiad brys San Steffan, yn amodol ar gymeradwyaeth Plaid Cymru,” meddai Catrin Wager.

“Dwi’n angerddol am ymladd dros fyd gwell i’n trigolion ni oll, ac mae hwn yn gyfle arbennig o freintiedig i geisio gweithredu’r dyheuad yma, yn enwedig gan fy mod yn olynu cynrychiolydd mor arbennig fel ymgeisydd.

“Mae Hywel Williams, gyda’i waith cydwybodol, egwyddorol a thosturiol, wedi bod yn ysbrydoliaeth.

“Ymhell cyn i mi gysidro’r byd gwleidyddol, roeddwn yn ymwybodol iawn fod gynnom gynrychiolydd fyddai bob tro yn gweithredu dros y mwyaf bregus a difreintiedig yn ein cymdeithas, llais sydd wir ei angen yn San Steffan.

“Does dim sicrwydd y bydd etholiad tra ’mod i’n ymgeisydd, ond os oes, mi fyddai parhau i droedio’r un llwybr â Hywel yn fraint o’r raddfa uchaf.

“Roedd yn anodd bod mewn cystadleuaeth yn erbyn pobol sydd o’r un anian â chi; sydd yn gydwybodol, gweithgar ac arbennig.

“Roedd yn fraint rhannu llwyfan hefo Beca a Paul, a dwi’n edrych ymlaen i barhau i gydweithio gyda nhw dros ein pobol, a’n cymunedau, a’n planed.”

‘Llongyfarchiadau gwresog’

“Llongyfarchiadau gwresog i Catrin Wager ar sicrhau enwebiad Plaid Cymru Arfon ar gyfer etholiad cyffredinol brys, a hynny yn sgil cyfres o hystings llwyddiannus iawn, gyda Paul Rowlinson a Beca Roberts yn llawn haeddu canmoliaeth am eu hangerdd hwythau i gynrychioli pobol Arfon,” meddai Hywel Williams.

“Mae Catrin yn ymgyrchydd egwyddorol ac rwy’n gwybod o brofiad ei bod â’r crebwyll gwleidyddol a’r dyhead dros gyfiawnder cymdeithasol i frwydro dros hawliau pobol yr etholaeth yma a hynny yn wyneb Llywodraeth Dorïaidd eithafol.

“Daw Catrin â chyfoeth o ymgyrchu cymunedol â hi, ac mae ganddi’r empathi sydd ei angen wrth wrando a gweithredu ar ran ein pobol fwyaf bregus.

“Edrychaf ymlaen i gydweithio yn agosach â hi dros y misoedd nesaf.”