Dylai Cyngor Ceredigion weinyddu drwy’r Gymraeg a sicrhau bod plant yn derbyn addysg Gymraeg, meddai Cymdeithas yr Iaith sy’n awgrymu ymateb posib i ganlyniadau’r Cyfrifiad yn y sir.

Mae’r mudiad yn galw arnyn nhw i ddefnyddio’u grymoedd i fynd i’r afael ag ail dai a thai gwyliau hefyd.

Mewn cyfarfod agored ddydd Sadwrn (Ionawr 21), gosododd pobol Ceredigion her i Gyngor Ceredigion chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â chwymp mewn poblogaeth a chanran siaradwyr Cymraeg y sir.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu yn sgil cwymp o 2% yng nghanran siaradwyr Cymraeg y sir rhwng 2011 a 2021.

Ceredigion welodd y gwymp fwyaf mewn poblogaeth mewn degawd, sef gostyngiad o 5.8%, ac yn ôl Tamsin Davies, ar ran rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith, mae ffigurau allfudo yn dangos mai pobol ifanc sy’n gadael y sir yn bennaf.

“Mae sawl rheswm am hynny – diffyg cyfleoedd gwaith, diffyg tai fforddiadwy a thorri ar wasanaethau,” meddai.

“Mae angen i bobol mewn grym, sy’n creu a gosod polisi, gymryd cyfrifoldeb am fynd i’r afael â hyn.”

‘Ymateb yn gadarnhaol’

Roedd cynrychiolwyr o fudiadau’r sir yn y cyfarfod dros y penwythnos, ynghyd â chynghorwyr sir a chymuned, a rhai o aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion, gan gynnwys yr arweinydd Bryan Davies.

“Roedden ni’n falch felly bod aelodau cabinet y cyngor ac arweinydd y sir yno i glywed ac i gyfrannu,” meddai.

“Man cychwyn oedd y cyfarfod, a bydd yn sail i ymgyrchoedd y Gymdeithas yn y sir ac yn gyfle i ni weithio gyda chymunedau’r sir i atal cwymp pellach yn nifer y siaradwyr a’r cymunedau Cymraeg.

“Ond rydyn ni wedi gosod her i’r Cyngor Sir hefyd – i ymateb yn gadarnhaol i ganlyniadau’r Cyfrifiad trwy fynd i’r afael â’r materion a godwyd heddiw.”

‘Canlyniadau siomedig’

Mae’r Cyngor yn cydnabod canlyniadau siomedig y Cyfrifiad mewn perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir.

Mae Cyngor Sir Ceredigion eisoes wedi cymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Mae’r Strategaeth Gorfforaethol yn nodi Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor sydd â’r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion Ceredigion. Y pedwar Amcan Llesiant Corfforaethol yw:

  • Hybu’r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth
  • Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach
  • Darparu’r Dechrau Gorau Mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu
  • Creu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i Gilydd

“Bydd y Cyngor yn cyfeirio ei adnoddau i’r meysydd hyn er mwyn ailfywiogi’r economi leol a darparu amgylchedd ffyniannus, iach, diogel a fforddiadwy y gall dinasyddion a chymunedau Ceredigion ffynnu ynddo.

“Mae’r Cyngor eisoes wedi rhoi ar waith nifer o brosiectau a strategaethau bydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc Ceredigion gallu byw a gweithio yng Ngheredigion. Mae hyn yn cynnwys denu buddsoddiadau i’r Sir nifer o grantiau, gan gynnwys Cynllun Arfor, Tyfu Canolbarth Cymru, y Gronfa Ffyniant Bro a Gronfa Adfywio Cymunedol.

“Mae’r Cyngor hefyd yn darparu ystod eang o opsiynau tai fforddiadwy o fentrau ar gyfer rhentu neu berchen ar dŷ.

“Yn ogystal, bydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf Ceredigion yn strategaeth 10 mlynedd o hyd, 2022-2032, a bydd yn ceisio atgyfnerthu a chryfhau darpariaeth yr iaith Gymraeg a chyrraedd y targed sydd wedi’I osod gan Lywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

“Nod pwysig yw sicrhau bod disgyblion yn gyfathrebwyr hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 (blwyddyn 6) pan maent yn symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.

“Mae’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gydnabyddiaeth o’r ymdrechion a’r gwaith sydd ei angen i gynnal y Gymraeg ac i ni yn benodol yng Ngheredigion yr ymdrech i gynnal ein cymdeithasau dwyieithog. Croesewir ymdrechion unrhyw gorff neu grŵp arall sy’n gweithio tuag at yr un nod.”