Roedd eira ar bob uchder ar yr Wyddfa ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 17), yn ôl adroddiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Dechreuodd yr arsylwadau o uchder o 350 metr amser cinio, a’r llwybrau gafodd eu dilyn oedd Llwybr Pyg/Mwynwyr, a rhannau o lwybrau Llanberis a Rhyd-Ddu.

Roedd yr adroddiad yn nodi amrywiaeth eang o eira ac amodau rhewllyd dan draed.

Roedd rhew sylweddol ar rannau o’r llwybrau, yn enwedig yn is lawr ar y mynydd, ond roedd mannau rhewllyd ar y llwybrau yn uwch i fyny hefyd.

Mae’r adroddiad yn dangos bod ddoe yn ddiwrnod newidiol, gyda chyfnodau heulog, cymylog a niwlog, gyda chawodydd o eira a chenllysg, a gwyntoedd cymedrol yn cryfhau tuag at ddiwedd y dydd.

Mae’r eira sydd yn gorwedd ar y mynydd wedi bod dan ddylanwad gwynt sylweddol, gan adael rhai mannau gyda haenen gymharol denau o eira ddigon rhewllyd, a mannau eraill wedi lluwchio’n llawer mwy trwchus, ac mae mannau lle mae eira newydd meddal wedi ymgasglu.

Mae nifer o fannau ar y llwybrau lle mae eira wedi lluwchio i lenwi’r llwybr bron yn gyfangwbl, ond hefyd llawr o ardaloedd lle mae’r eira ar y llwybr wedi ei droedio a’i gywasgu, gan adael eira cywasgedig dwys a llithrig.

Mae ardaloedd lle mae cramen wynt wedi ffurfio, a lle mae lluwchfeydd ar hyd ymylon wedi dechrau bargodi.

Offer hanfodol

Dangosodd adroddiad diweddar gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod angen offer hanfodol i gerdded – offer cerdded addas tymhorol arferol, yn cynnwys goleuadau.

Yn ôl yr adroddiad, dylid cario offer mynydda gaeaf gan gynnwys gogls eira, caib rew a chrafangau cerdded i’r traed.

Dywed yr adroddiad y gall pigau traed bychain hefyd fod yn ddefnyddiol yn is ar y mynydd ar rannau llai serth.

Adeg llunio’r adroddiad, roedd rhagolygon yn awgrymu y byddai amrywiaeth o dywydd digon gaeafol dros y dyddiau nesaf, gyda gwyntoedd sylweddol ar adegau, cyfnodau eang o eira, tymheredd oer iawn o dan y rhewbwynt ar bob uchder, lluwchfeydd ac ysbeidiau heulog.

Golyga hyn y gall deimlo yn oer iawn, y gall fod yn anodd gweld er mwyn symud yn ddiogel ar y mynydd, ac mae posibilrwydd bod llwybrau yn llenwi gydag eira ac yn dod yn anodd iawn i’w canfod a’u dilyn yn enwedig pan fydd cymylau, niwl neu ei bod yn bwrw eira.

Mae nhw’n nodi bod yr eira wedi dechrau ffurfio bargod (cornice) ar hyd rhai ymylon, ac er nad ydyn nhw eto wedi bargodi go iawn, gall yr eira ar hyd yr ymylon fod yn ansefydlog, felly dylid cadw digon o bellter oddi wrth ymylon serth i osgoi sefyll ar unrhyw eira o’r fath yn ddamweiniol.

Cyngor

Mae’r adroddiad yma yn cael ei gyflawni yn rheolaidd trwy fisoedd y gaeaf gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn rhoi arwyddion o’r amodau rhew neu eira dan draed yn ardal yr Wyddfa.

Maen nhw’n rhybuddio pobol i gofio bod mynydda yn weithgaredd sydd â pheryglon cynhenid.

Dywed pan fydd pobol allan yn y mynyddoedd y dylen nhw fod yn ymwybodol o, a derbyn, y peryglon hyn gan gymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau eu hunan, paratoi’n drylwyr a mwynhau’r antur!

Dywed efallai bod angen cyfarpar ychwanegol wrth gerdded yr ucheldiroedd yn y gaeaf ac mae’n bwysig paratoi yn drwyadl er mwyn cerdded y mynyddoedd yn saff.