Lle braf yw’r Saith Seren yng nghanol dinas Wrecsam. Hen westy y Seven Stars ‘stalwm, wedi ei droi’n ganolfan ddiwylliannol, sy’n hwb i’r iaith Gymraeg yn y fro… tra hefyd yn dafarn fach glyd, gyfeillgar, lle geith y gymuned gwrdd dros ddiod o’u dewis. Ginger ale i mi, os ’dych chi’n cynnig!

Doeddwn i heb sylweddoli, tan i mi Google-o jyst rŵan, taw gwaddol yr Eisteddfod Genedlaethol ’nôl yn 2011 oedd hanes y fenter. Ond mae hynna’n gwneud synnwyr, oherwydd trwy’r math yma o sylw Cymraeg i’r fro mae syniadau arloesol yn tyfu. Mae angen mwy o hyn os ydym am wrthdroi ffigyrau’r Cyfrifiad, felly da o beth yw fod y ‘Steddfod yn dod ’nôl yn 2025.

Dwi’n cofio ’nôl yn 2010, roedd y fro’n fwrlwm hefo’r build up a chawsom ‘Steddfod yn y Clwb Lager’. Enillais wobr hefo fy nhelyneg ‘Llygaid’… a ches i bach gormod o win a ffeindio fy hun ar y llwyfan yn canu ‘Bugail Aberdyfi’! Hoffwn feio Siôn Aled Owen ac Aled Lewis Evans am hyn, gan taw nhw drefnodd y noson… ond roeddwn i’n 31 ar y pryd, a mynychais y noson hefo fy nhad!

Y Saith Seren a fi

Pan agorwyd y Saith Seren ’nôl yn 2012, roeddwn wrth fy modd â’r lle. Ar y pryd, roeddwn wrthi’n jyglo sawl contract byr o ran gwaith. Roeddwn wedi bod yn sgwennu colofn ym mhapur bro Y Clawdd ers tair blynedd, ac hefyd wrthi’n barddoni a cheisio creu rhyw fath o yrfa fach greadigol i mi fy hun.

Yna, clywais fod dyn ifanc lleol o’r enw Paul Clifton wedi bod yn gweithio hefo Aled Lewis Evans i greu noson open mic o’r enw ‘Viva Voce’ (sydd dal yn rhedeg yn y fro), ac un noson mynychais un o’r rhain yn y Saith Seren.

Sara_2012
Dr Sara Louise Wheeler yn noson farddoniaeth Viva Voce yn y Saith Seren yn 2012

Mae’n rhyfedd meddwl rŵan pa mor swil oeddwn i ar y pryd, yn crynu wrth geisio darllen fy ngherddi bach amrwd, yn fy Nghymraeg dafodieithol; dwi’n cofio Paul yn codi ar ôl i mi ddarllen rhyw ddwy frawddeg a symud y meicroffon yn agosach ataf, gan fod fy llais mor fach roeddwn bron iawn yn sibrwd!

Ond dyma yn union sydd wrth galon y Saith Seren, yn fy marn i – rhoi platfform i bobol y fro trwy gyfrwng y Gymraeg, lle does fawr o gyfle fel arall. Ac roedd yn fraint rhannu’r platfform y noson honno hefo beirdd oedd yn barod yn adnabyddus, megis David Subbacci, oedd yn gymydog i mi ’nôl yn y 1990au.

Pan sgwennais am y noson yn fy ngholofn, dewisais David fel ‘man of the match’, hefo’i gerdd gwbl wych oedd yn talu teyrnged i’r Saith Seren.

Clwb Clebran a’r ‘Doctoriaid Cymraeg’

Tua’r un adeg, dechreuwyd grŵp sgwrsio i ddysgwyr yn y Saith Seren, gan gwrdd bob nos Iau am 7.30yh i ymarfer eu Cymraeg dros ddiod. Ac felly, mae’r grŵp wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan redeg yn gyson ers dros ddeng mlynedd bellach.

Flwyddyn diwethaf, mi wnaeth cadeirydd y Saith Seren, Chris Evans, roi galwad ar Facebook am siaradwyr gwadd i’r Clwb Clebran. Roedd fy nghyfaill Stephen ‘Doctor Cymraeg’ Rule yn barod wedi bod draw. Felly, not to be outdone, trefnais fynychu.

Cefais noson andros o ddifyr yng nghwmni’r clwb, gan rannu fy ‘nhaith-iaith’. Cefais sgwrs ddifyr hefyd hefo dyn ifanc o’r grŵp am gyfieithu lyrics, a throdd hyn yn brosiect ‘Utopias bach’.

Dwi wedi bod i ambell sesiwn a chael sgyrsiau dwfn yn nhafodiaith gref Rhosllannerchrugog, ac wedi cwrdd â phobol annisgwyl, megis dysgwr oedd yn Wrecsam ar ei wyliau o Awstralia! A, wir yr rŵan, wnaeth o ddilyn y sgwrs llawn ‘enes’ a ‘nenes’ dim problem!

Yna, yn wythnos gynta’r flwyddyn a’r Saith newydd agor ei drysau, es i draw ene ychydig yn fuan. Am 6yh, mi wnes i gwrdd hefo Stephen a chawsom drafodaeth am sawl prosiect sydd gennym ar y gweill, gan gynnwys ‘Y Doctoriaid Cymraeg’.

Mae Stephen erbyn hyn yn hynod o lwyddiannus hefo’i lyfrau i ddysgwyr, sy’n gysylltiedig â’r adnodd ‘Duolingo’. Dewisodd y teitl ‘Doctor’ i’w hun, felly roedd yn rhyfedd pan wnaethom gwrdd a dechrau trafod prosiectau – gan fy mod i hefo’r teitl ‘Dr’ trwy wneud doethuriaeth. Roedd hi’n arwydd…!

Un o’n syniadau ar hyn o bryd yw creu podlediad a/neu sioe radio o’r enw ‘Y Doctoriaid Cymraeg’, i drafod y Gymraeg, gan obeithio y bydd o ddiddordeb i ddysgwyr.

Wrth drafod y syniad hefo’r Clwb Clebran, cawsom lond y lle o syniadau gwych am sut i strwythuro’r rhaglen, a’r math o beth fyddai pobol yn hoffi ei glywed arni.

Fel y gwelwch o’r llun, mi roedd hi’n noson brysur, ac felly fe wnes i adael yn llawn brwdfrydedd a gobaith, am y fenter newydd, ac am y Gymraeg ym mro fy mebyd.