Mae dynes 43 mlwydd oed o’r Felinheli wedi cael ei thrin â phigiad Buvidal i’w helpu i beidio â meddwl am gymryd heroin, gan ddweud ei fod “wedi rhoi fy mywyd yn ôl i fi”.

Enillodd Kelly Rowlands ei brwydr â bod yn gaeth i heroin 12 mlynedd yn ôl pan feichiogodd, gan roi’r gorau i gymryd y cyffur yn llwyr i fagu ei phlentyn.

Roedd hi’n dal i feddwl am ddefnyddio’r cyffur, ond llwyddodd i ddod oddi arno heb ddefnyddio methadôn i’w helpu.

Dechreuodd gymryd heroin yn 17 neu 18 mlwydd oed, a buan y cafodd hi ei hun yn gaeth i’r cyffur.

Er ei bod wedi peidio â chymryd cyffuriau ers 12 mlynedd ers cael plentyn, roedd yn brwydro â meddyliau tywyll o ddefnyddio heroin am amser hir wedyn.

“Clywais am y pigiad yma llynedd, lle mae o’n blocio derbynyddion dy ymennydd,” meddai Kelly Rowlands wth golwg360.

“Mae o’n anhygoel.

“Dw i ddim wedi meddwl am ddefnyddio mewn 15 mis ers cael y pigiad, dim hyd yn oed unwaith.

“Wnes i sortio fy hun allan 12 mlynedd yn ôl, ond roeddwn dal yn cael fy moddi efo meddyliau o ddefnyddio.

“Mae caethiwed yn effeithio ar bob agwedd o dy fywyd. Doedd y meddyliau byth yn mynd i ffwrdd.

“Rwy’n cael y pigiad unwaith y mis.”

Pŵer y meddwl

Er bod Kelly Rowlands wedi cymryd y pigiad yma i helpu efo meddyliau am gymryd heroin, mae’r frwydr yn llawer dyfnach na chymryd pigiad yn unig.

Roedd rhaid iddi dorri cysylltiad efo ffrindiau’r gorffennol, a doedd hi ddim eisiau presgripsiwn methadôn i wneud pethau’n haws, gan nad oedd hi eisiau cysylltiad â cyffuriau eraill yn y fferyllfa y gallai hi fynd yn gaeth iddyn nhw.

“Yn amlwg, mae’n cymryd mwy na phigiad i droi dy fywyd gwmpas, ti’n gorfod bod eisiau’i wneud o,” meddai wedyn.

“Mae’n rhaid torri cysylltiadau efo dy orffennol.

“Dwyt ti ddim yn gallu parhau i ymwneud efo caethion.

“Doeddwn i ddim eisiau mynd ar sgript, fyddai’n golygu bod o gwmpas pobol oedd yn defnyddio.

“Roeddwn wedi troi fy mywyd o gwmpas a doeddwn i ddim eisiau cael fy ngweld yn y fferyllfa.”

Magu plentyn

Oherwydd bod Kelly Rowlands yn gaeth i gyffuriau, methodd â magu ei phlentyn cyntaf, sydd bellach yn oedolyn.

12 mlynedd yn ôl, newidiodd ei byd pan feichiogodd am yr ail waith.

Roedd am fagu ei phlentyn ei hun, ac am y rheswm yma y llwyddodd i ddod oddi ar y cyffur.

“Fy mam wnaeth magu fy merch,” meddai.

“Es i’n feichiog gyda fy mab, a phenderfynais yr adeg yna i droi fy mywyd o gwmpas neu fyswn wedi cael plentyn arall yn cael ei fagu gan un o’r teulu.

“Doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny.

“Magais fy hogyn bach ar ben fy hun.

“Yn y dechrau, roedd y gwasanaethau cymdeithasol yn involved oherwydd fy nghaethiwed.

“Profais iddyn nhw fy mod yn ddigon ffit, a wnaethon nhw seinio fi off.”

Bywyd “yn mynd o nerth i nerth”

Gwaith celf Kelly Rowlands

Ers hynny, mae ei bywyd “yn mynd o nerth i nerth”, meddai.

Yn ogystal â magu ei phlentyn, mae hi wedi bod yn gweithio fel glanhawraig, ac mae hi bellach yn astudio celf yn y coleg.

“Mae fy nghaethiwed wedi mynd yn llwyr.

“Mae gennyf 100% rheolaeth o fy ymennydd, rwy’n mynd o nerth i nerth gyda fo. Mae o wedi rhoi fy mywyd yn ôl i fi.

“Dyna sut dwi’n gwneud mor dda yn y coleg, dwi’n y coleg ers Medi, mae o’n grêt.

“Rwy’n gobeithio cael busnes fy hun mewn blwyddyn neu ddwy.

“Rwy’ wedi bod yn lân ers cael yr hogyn bach, ac mae o’n 12 rŵan.

“Wnes i ddim mynd ar sgript yn yr unarddeg mlynedd ddwytha’.

“Rwy’ dim ond wedi dechrau derbyn bod beth dwi wedi’i wneud yn anhygoel.”