Mae Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd wedi cynnal cyrchoedd ar fusnesau manwerthu yn ardaloedd Caernarfon a Bangor, gan feddiannu symiau mawr o gynhyrchion tybaco anghyfreithlon.

Cafodd y cyrchoedd eu cefnogi gan Heddlu’r Gogledd heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 23).

Roedd y nwyddau gafodd eu hatafaelu rhag eu gwerthu yn cynnwys sigaréts, tybaco rholio, a llawer iawn o gynhyrchion anadlu nicotin untro (vapes).

Maen nhw’n amcangyfrif fod gwerth manwerthu’r atafaeliadau yn fwy na £32,000 ar ôl i sigarets gael eu canfod gan gŵn yr heddlu mewn siopau.

Bydd tîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn ymchwilio i berchnogion y busnesau a bydd camau gweithredu ffurfiol yn cael eu cymryd yn eu herbyn lle bo’n briodol.

“Dyma swmp o nwyddau anghyfreithlon wedi eu meddiannu gan ein swyddogion ac mae’n enghraifft bwysig o gydweithio rhwng Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

“Nid ydym yn goddef gwerthu cynhyrchion tybaco peryglus ac anghyfreithlon yma yng Ngwynedd.

“Mae ysmygwyr yn rhoi eu bywydau mewn hyd yn oed yn fwy o berygl drwy ysmygu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon oherwydd y llu o gynhwysion ychwanegol sydd i’w cael ynddynt.

“Rydym yn gobeithio bydd hyn yn atgoffa pobol na fydd gwasanaethau’r Cyngor yn eistedd yn ôl tra bod y cyhoedd yn cael eu rhoi mewn perygl.

“Byddwn yn parhau i ganfod a dinistrio unrhyw gynhyrchion tybaco anghyfreithlon y byddwn yn dod o hyd iddynt, a byddwn hefyd yn gwthio am ddirwyon mawr i’r rhai sy’n ymwneud â gwerthu’r cynhyrchion hyn.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu neu storio tybaco anghyfreithlon i roi gwybod i ni yn gyfrinachol naill drwy ffonio 01766 771000 neu e-bostio safmas@gwynedd.llyw.cymru”