Mae gwleidyddion Dwyfor Meirionnydd wedi croesawu’r newyddion fod Cyngor ar Bopeth Gwynedd wedi derbyn cyllid newydd i helpu i ateb y galw cynyddol am wasanaethau o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Bydd yr arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyfrannu at recriwtio aelod o staff a fydd yn galluogi swyddfa Cyngor ar Bopeth yn Nolgellau i gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau a recriwtio mwy o wirfoddolwyr.

Fe wnaeth Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol, a Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd, gyfarfod â Tal Michael, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Gwynedd, a gwirfoddolwyr yn swyddfa Dolgellau’n ddiweddar i drafod yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth.

“Roeddem yn falch o glywed bod Cyngor ar Bopeth Gwynedd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a fydd yn cael ei ddefnyddio i recriwtio aelod o staff i gefnogi eu gwaith a helpu i gwrdd â’r galw cynyddol am wasanaethau,” meddai’r ddau.

“Mae staff a gwirfoddolwyr CAB yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobol.

“Mae eu hymroddiad i ddarparu cyngor cyson a dibynadwy i’r rhai sy’n mynd trwy gyfnod anodd yn wirioneddol werthfawr ac maent yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwasanaeth.

“Mae cartrefi a busnesau yn Nwyfor Meirionnydd yn cael eu taro’n wael gan yr argyfwng gostau byw a’r argyfwng ynni, a gwyddom o’n gwaith achos pa mor bryderus yw pobol am eu sefyllfa ariannol.

“Mae’r sefyllfa’n mynd yn annioddefol i lawer – gyda chartrefi incwm is yn dioddef fwyaf.

“Mae tîm CAB yn Nolgellau, ac yn wir ar draws Gwynedd, yn darparu rhwyd ​​​​ddiogelwch hanfodol i’r rhai sydd wedi cael eu methu fwyaf gan y llywodraeth Dorïaidd hon.

“Byddem yn annog unrhyw un sydd angen cyngor i gysylltu â’u swyddfa CAB leol.”