Mae’r Nadolig yn prysur agosáu ac mae llu o ddigwyddiadau ar y gorwel, ym mhob cwr o’r wlad.

Dyma rai o’n dewisiadau ni o Galendr360.


Marchnad Nadolig Aberystwyth

Dyma’u hail farchnad Nadolig eleni, yn cynnwys eu stondinwyr arferol yn ogystal â nifer o westeion arbennig.

Crefftau ac anrhegion di-ri, bwyd a diod poeth ac adloniant gan bobol leol.

Pryd? Dydd Sadwrn, Rhagfyr 17, 10yb – 4yp

Ble? Coedlan y Parc, Aberystwyth


Miri Mawr ar y Mynydd Bach

Ymunwch yn hwyl a sbri’r pantomeim Nadolig Cymraeg wrth i’r criw fynd ar antur fawr i’r Mynydd Bach, lle mae tarddiad Afon Aeron, lle mae hanes, diwylliant a diwydiant, a straeon dirdynnol am wasgfa ac ymadael, ac wrth gwrs hanes Augustus Brackenbury a rhyfel y “Sais bach”.

Pryd? Mae dangosiadau ar gael ar draws y cyfnod, felly ewch i Galendr360 am olwg.

Ble? Theatr Felinfach, Felin-Fach


Recordiau Noddfa yn cyflwyno Hosan Lawen 2022

Mae Recordiau Noddfa yn cynnig leinyp digon ___ sy’n cynnwys 3 Hwr Doeth, Melin Melyn, Kim Hon, Papur Wal, Pys Melyn a Crinc.

Pryd? Dydd Sadwrn, Rhagfyr 17, 6yh ymlaen

Ble? Neuadd Ogwen, Bethesda

 

 

 


Taith Tractor Nadoligaidd

Bydd taith dractorau Nadoligaidd er mwyn codi arian tuag at Gronfa Apêl Sioe’r Cardis 2024.

Gwisgwch yn Nadoligaidd a chroeso i chi addurno eich tractor yn hwyl yr ŵyl.

Bydd diod, lluniaeth ysgafn a thocyn raffl yn rhan o’r pris.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae’n bosib cysylltu gydag Emyr Jones (01570 480424) neu Peter Davies (01570 480853).

Pryd? Cofrestru o 10yb, gadael am 11yb

Ble? Rhyd-y-Felin, Drefach, SA40 9YB


Taith Siôn Corn o gwmpas Tregaron

Pryd? Dydd Iau, Rhagfyr 22, 6yh


Gwasanaeth ar fore’r Nadolig

Oedfa undebol ar fore’r Nadolig, dan arweiniad y Parch Ddr Watcyn James.

Pryd? Dydd Sul, Rhagfyr 25, 9yb

Ble? Capel y Garn, Bow Street


Cinio Nadolig am ddim

Cyfle am gwmni, cinio blasus a hwyl ar Ddydd Nadolig.

Pryd? Dydd Sul, Rhagfyr 25

Ble? Canolfan Cefnfaes, Bethesda


Gig Nadolig gyda Celt

Pryd? Dydd Mawrth, Rhagfyr 27, 19:30

Ble? Neuadd Ogwen, Bethesda


Nos Galan yn y Vale

Disgo a gwisgo lan!

Thema’r wisg ffansi yw’r llythyren ‘C’ a bydd gwobr i’r enillydd… byddwch yn greadigol!

Pryd? Dydd Sadwrn, Rhagfyr 31, 19:30

Ble? Tafarn y Vale, Felin-fach


Cymrwch olwg ar ddigwyddiadau’r ŵyl yma.