Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i ffatri ganabis yn Alltyblaca ger Llanbed yng Ngheredigion.

Mae’r heddlu wedi bod yno ers ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 29), gyda sawl cerbyd y tu allan i’r tŷ, ac mae trigolion lleol yn dweud bod oglau canabis yn gryf yno.

Cafodd yr heddlu wybod am amheuon fod fferm ganabis yn yr eiddo gwag, ac mae pum cerbyd ganddyn nhw ar y safle, gan gynnwys fan Cefnogaeth Wyddonol.

Mae planhigion cannabis wedi eu cael yn y tŷ ac mewn adeilad y tu allan.

Mae un ochr i’r ffordd wedi’i chau, gyda goleuadau traffig y tu allan.

Roedd y tŷ wedi ei werthu am £300,000 fis Hydref y llynedd.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill, ond maen nhw’n dweud nad oes neb wedi’i arestio hyd yn hyn.