Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cynnig i argymell bod y Cyngor yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi o 100% i 150% o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfarfod yr wythnos nesaf (dydd Mawrth, Tachwedd 22), bydd y Cabinet yn cynnig y dylid cadw’r premiwm ar dai gwag hirdymor ar 100%.

Bydd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Gyllid, hefyd yn argymell bod unrhyw arian ychwanegol sy’n dod i goffrau’r Cyngor yn sgil y newid yn cael ei glustnodi i fynd i’r afael â’r argyfwng digartrefedd.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y premiwm ail gartrefi ei gynnal, a daeth dros 7,300 o ymatebion iddo – y nifer uchaf i Gyngor Gwynedd eu derbyn ar gyfer unrhyw ymgynghoriad yn y blynyddoedd diwethaf.

“Rydym wedi pwysleisio o’r dechrau nad refferendwm oedd yr ymarferiad hwn, ond cyfle inni gael darlun o farn a phrofiad ystod o bobol,” meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas.

“Rydym bellach wedi cael cyfle i gnoi cil ar ganlyniadau’r arolwg, a byddaf yn gofyn i’r Cabinet argymell fod y Cyngor Llawn yn cynyddu’r premiwm o 100% i 150% ar gyfer ail gartrefi a chadw’r premiwm ar 100% ar dai gweigion.

“Mae’n bwysig cofio mai un cam yn y broses ydi’r adroddiad i’r Cabinet ac mai’r Cyngor Llawn fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y Premiwm Treth Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.”

Mynd i’r afael â digartrefedd

Hyd yma, mae’r drafodaeth ynghylch y Premiwm Treth Cyngor wedi canolbwyntio ar yr effaith mae ail gartrefi’n ei chael ar y farchnad dai leol ond yn ôl y Cyngor, mae hi’n “hollol amlwg” bod yr argyfwng tai yng Ngwynedd hefyd yn gwaethygu sefyllfa digartrefedd dros y sir.

Bu cynnydd o 47% yn nifer y rhai sy’n ddigartref yng Ngwynedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae diffyg cyfleon i bobol sy’n byw mewn tai rhent allu prynu eu cartref cyntaf yn arwain at wasgfa ar y sector rhentu, yn y farchnad breifat a thai cymdeithasol fel ei gilydd, meddai Cyngor Gwynedd.

O ganlyniad, mae diffyg tai rhent ar gael i’r Cyngor fedru darparu llety i bobol ddigartref lleol, ac maen nhw’n gorfod lletya mewn gwestai a llety dros dro am gyfnodau hir iawn ac ar “gost anghynaladwy” i’r Cyngor.

Mae’r Cynghorydd Ioan Thomas o’r farn y dylai’r Cyngor adeiladu ar y gwaith da o ddefnyddio unrhyw arian ddaw i’r coffrau drwy’r premiwm i sicrhau cartrefi i bobol leol.

“Hyd yma, mae’r arian sydd wedi ei gasglu drwy’r premiwm wedi ei glustnodi yn benodol ar gyfer y Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd,” meddai.

“O fewn y cynllun arloesol hwn, mae’r Cyngor wedi gallu bwrw ymlaen efo dau gynllun Tŷ Gwynedd fydd yn darparu cartrefi fforddiadwy ac addas i hyd at 86 o bobol o fewn eu cymunedau ym Mangor a Llŷn.

“Rydym hefyd wedi ehangu ar gynllun rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod y cynnig o fewn cyrraedd mwy o bobol Gwynedd.

“Rydw i’n galw ar fy nghyd-aelodau i ehangu ar hyn drwy sianelu unrhyw arian ychwanegol a ddaw o godi’r premiwm ar ail gartrefi tuag at gynlluniau i atal digartrefedd.

“Yn ystod 2021/22, cysylltodd 1,126 o bobol â’r Cyngor am eu bod yn ddigartref, sy’n gynnydd o 19% o gymharu â’r llynedd, a chynnydd o 47% ar y flwyddyn 2018/19.

“Does dim dwywaith fod yr argyfwng costau byw wedi cyfrannu’n fawr at y sefyllfa dorcalonnus yma.

“Mae sicrhau llety diogel i bobol sydd heb unlle arall i fyw yn golygu fod y Cyngor yn gwario £6m yn fwy eleni yn unig ar wasanaethau digartrefedd ac mae hyn wrth gwrs yn arian nad yw ar gael i gynnal gwasanaethau angenrheidiol eraill.

“Rwyf felly yn argymell fod incwm ychwanegol o’r premiwm yn cael ei ddefnyddio i gau rhywfaint ar y bwlch hwn.”